Mae “lle i wneud mwy” i helpu cynghorwyr sy’n wynebu aflonyddu, yn ôl cynghorydd ar Gyngor Gwynedd.

Mae Menna Baines yn cynrychioli ward Y Faenol yn enw Plaid Cymru, ac mae hi wedi bod yn siarad â golwg360 am achos Ellie Richards, cynghorydd ifanc ym Mhen-y-bont ar Ogwr sydd wedi rhoi’r gorau i’w rôl am nifer o resymau, gan gynnwys y ffaith iddi gael ei haflonyddu.

Cafodd Ellie Richards ei hethol i gynrychioli Abercynffig yn 2022 yn 23 oed, ond bu’n gynghorydd am lai na dwy flynedd.

Bu’n cydweithio â’i thaid, Malcom James o Langynwyd, gyda’r bwriad o gyfuno profiad a syniadau newydd ar wleidyddiaeth.

Mewn datganiad ysgrifenedig, dywedodd bod ei phenderfyniad i ymddiswyddo wedi’i ysgogi gan ei chyflwr meddygol, ffibromyalgia, ynghyd â’r ffaith iddi gael ei “thargedu”.

Diogelu ein cynghorwyr

Dywed Menna Baines fod yna “ymwybyddiaeth o’r problemau y gall cynghorwyr [o bob oed] eu hwynebu yn sgil ymddygiad amhriodol neu fygythiol”.

Er bod cyngor ar gael ar wefannau’r cynghorau sir – megis Cyngor Gwynedd, lle caiff sesiynau ar ddiogelwch personol eu cynnig – dywed fod “lle i wneud mwy i helpu cynghorwyr i baratoi ar gyfer y posiblrwydd o wynebu problemau o’r fath”.

“Mae rôl cynghorydd yn ei hanfod yn un gyhoeddus,” meddai wrth golwg360, gan ychwanegu bod cyfle i’r cyhoedd gysylltu a rhannu eu pryderon am faterion amrywiol.

Er ei bod yn anodd rhwystro ymddygiad amhriodol, meddai, mae hi’n credu bod “angen gofalu, yn fwy systematig nag sy’n digwydd ar hyn o bryd efallai, bod cynghorwyr yn gwbl effro i’r peryglon”, ac yn ymwybodol o sut i ddiogelu eu hunain pe baen nhw’n derbyn sylwadau neu negeseuon amhriodol ar y cyfryngau cymdeithasol.

‘Heriau sylweddol’

“Rwy’ wedi ymroi fy hun i wasanaethu ein cymuned a chynnal gwerthoedd a dyletswyddau’r swydd hon,” meddai Ellie Richards.

“Fodd bynnag, dros y misoedd diwethaf, rwy’ wedi bod yn mynd i’r afael â heriau sylweddol yn ymwneud â’m hiechyd meddwl a chorfforol o ganlyniad i’r aflonyddu dderbyniais i.”

Dywed ei bod hi’n ddiolchgar am y “gefnogaeth a’r cyfleoedd mae’r swydd hon wedi eu darparu”, a’i bod hi’n “falch o’r anrhydedd fod fy nghymuned wedi dewis ymddiried” ynddi yn 2022.


Beth yw Ffibromyalgia?

Mae Ellie Richards wedi cyhoeddi ei bod hi hefyd wedi derbyn diagnosis o ffibromyalgia, ac wedi bod yn derbyn triniaethau amrywiol i wella ansawdd ei bywyd.

Noda fod llawer o’i chyd-weithwyr a thrigolion lleol yn ymwybodol o’i thrafferthion gyda’i [h]iechyd meddwl a chorfforol dros y flwyddyn ddiwethaf.

Cyflwr hirdymor yw syndrom ffibromyalgia (FMS), sy’n gallu achosi poen ym mhob rhan o’r corff.

Gall symptomau amrywio o senstifrwydd i boen i anystwythder cyhyrau, o anhawster mynd i gysgu i anhawster canolbwyntio, o gur pen i syndrom coluddyn llidus (IBS), ac o gyflwr treulio sy’n achosi poen yn y stumog a chwyddo i deimladau o rwystredigaeth.

Diffyg gwasanaeth Cymraeg a help i ddynes â ffibromyalgia

Lowri Larsen

Rhwystredigaeth ynglŷn â diagnosis y cyflwr ar Ddiwrnod Ymwybyddiaeth Ffibromyalgia