A gawn ni fyth drafodaeth ddifrifol yn y Senedd am ddyfodol cyfansoddiadol Cymru, gan gynnwys annibyniaeth?

Yr wythnos diwethaf, cafodd adroddiad y Comisiwn ar ddyfodol ein cyfansoddiad ei gyhoeddi. Cafodd y Comisiwn ei sefydlu gan Lywodraeth Cymru, ond mae’n gwbl annibynnol. Cafodd y Comisiwn ei gadeirio gan Rowan Williams, cyn-Archesgob Cymru ac yna Caergaint, a’r Athro Laura McAllister o Brifysgol Caerdydd. Roedd cynrychiolaeth gan holl bleidiau gwleidyddol ein Senedd, gan gynnwys aelod o’r Blaid Geidwadol, ac eraill heb unrhyw gysylltiadau gwleidyddol. Felly, fel y byddech yn ei ddisgwyl, cafodd dogfen sylweddol ei llunio ganddyn nhw, gafodd ei chynhyrchu dros ddwy flynedd.

Mae’r adroddiad yn amlygu nad yw’r drefn bresennol yng Nghaerdydd yn opsiwn ymarferol. Fodd bynnag, mae’n darparu amrywiaeth o opsiynau ar gyfer y dyfodol. Mae Teyrnas Gyfunol ffederal gyda statws cyfartal i bob rhanbarth yn bosibilrwydd, ond byddai hyn yn gofyn am newidiadau ym mhob un o bedair rhan y Deyrnas Unedig – peth anodd ar y naw i’w gyflawni. Caiff newidiadau sylweddol i ddatganoli eu hawgrymu hefyd, gyda mwy o bwerau a chyllid yn cael eu datganoli i’n Senedd. Mae’r ymateb i hyn gan y Ceidwadwyr a Llafur yn San Steffan wedi bod yn llugoer, a dweud y lleiaf. Yn arwyddocaol, maen nhw’n nodi bod annibyniaeth yn opsiwn gwirioneddol, ond y byddai angen gwaith hirdymor. Mae llawer iawn i’w drafod.

Yn ystod Cwestiynau Busnes yr wythnos diwethaf, gofynnais am ddadl ar yr Adroddiad gan Penny Mordaunt, Arweinydd Tŷ’r Cyffredin, efallai ar ddiwedd y mis pan fyddwn fel arfer yn cynnal dadl flynyddol Dydd Gŵyl Dewi. Rydym yn ymwybodol o’r llu o faterion parhaus sy’n wynebu’r Llywodraeth yma yn San Steffan – y rhyfeloedd yn Wcráin a Gaza, yr argyfwng costau byw, ac etholiad ar y gorwel. Ond fu llywodraethiant ein gwlad erioed yn uchel ar restr blaenoriaethau San Steffan.

Ond serch hynny, roedd ateb y Gweinidog yn gwbl annigonol. Dywedodd, pe baem yn cael dadl, y byddai ei hochr “bob amser yn troi i fyny i amddiffyn yr Undeb” – datganiad nad yw’n syndod o gwbl. Mae gwasanaethau datganoledig yn cael eu rhedeg yn wael gan y Blaid Lafur, meddai, heb unrhyw awgrym o gydnabod cyflwr affwysol gwasanaethau yn Lloegr hefyd.

Gorffennodd gyda honiad rhyfedd:

Mae’n gyflwr trist a blin nad Plaid Genedlaethol yr Alban yw’r blaid o ymhwynawyr mwyaf bywiog yn y Deyrnas Unedig bellach, ond y Blaid Lafur.

Gresyn na fyddai hynny’n wir; mae ymateb Llafur i’r adroddiad pwysig hwn wedi bod yr un mor ddiystyriol â’r Torïaid.

Er gwaethaf adroddiad Gordon Brown yn 2022 yn ymrwymo Llywodraeth Llafur i ymgysylltu ag argymhellion Comisiwn Cyfansoddiadol Cymru, roedd Jo Stevens, llefarydd Llafur y Deyrnas Unedig yng Nghymru, eisoes wedi gwrthod yn llwyr un o’i hargymhellion allweddol cyn i inc yr adroddiad sychu.

O ran cyfiawnder a phlisomona, roedd ymateb Ms Stevens yn arbennig o siomedig. Wrth siarad â rhaglen Politics Wales BBC One, dywedodd Ms Stevens:

Rydym wedi dweud y byddwn yn ymchwilio i ddatganoli cyfiawnder ieuenctid a’r gwasanaeth prawf. Ond ni fyddwn yn edrych ar ddatganoli plismona a chyfiawnder.

Mae Llywodraeth Lafur Cymru eisoes wedi cytuno â safwbynt Plaid Cymru y byddai plismona a chyfiawnder yn decach, yn fwy effeithlon ac yn fwy atebol pe bai’n cael ei redeg o’r Senedd. Mae sawl adroddiad, gan gynnwys Comisiwn Silk 2011 a Chomisiwn Thomas 2022 – y ddau wedi’u comisiynu gan Lywodraeth Lafur Cymru – wedi tynnu sylw at yr angen dybryd i ddatganoli plismona a chyfiawnder. Ond mae Llafur Starmer, yn drahaus, yn meddwl eu bod yn gwybod yn well na phawb.

Canfu is-grŵp cyfiawnder y Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru dystiolaeth oedd yn cefnogi’n gryf yr achos dros ddatganoli llawn, gan nodi manteision megis canlyniadau gwell, gwell gwerth am arian, mwy o dryloywder, a gwell atebolrwydd. Pam y byddai unrhyw blaid sy’n honni ei bod eisiau’r hyn sydd orau i Gymru yn anwybyddu tystiolaeth o’r fath?

Byddaf yn gwneud cais i’r Pwyllgor Busnes am ddadl ar gyfansoddiad Cymru yn y dyfodol. Fel Prif Chwip y Blaid yn San Steffan, rwy’ eisoes wedi codi’r mater gyda’r ochr arall ‘drwy’r sianeli arferol’. Fodd bynnag, o ystyried ateb Penny Mordaunt yn y siambr, ac ateb Jo Stevens yn y cyfryngau, nid oes gennyf unrhyw obeithion mawr am ystyriaeth ddifrifol o’r adroddiad nac unrhyw gamau gwirioneddol ar ei argymhellion – o leiaf nid o San Steffan.

Yn fwy nag erioed, mae’r ymateb i’r adroddiad yn amlygu’r angen dybryd i bobol Cymru orfodi San Steffan i ofalu am Gymru, drwy ethol grŵp cryf o Aelodau Seneddol Plaid Cymru yn yr etholiad cyffredinol.