Mae 85% o’r 500 o ffermwyr gwartheg gafodd eu holi’n ddiweddar gan NFU Cymru yn dweud  bod y diciâu mewn gwartheg wedi cael effaith negyddol ar eu hiechyd meddwl nhw neu eu teulu.

Mae Aled Jones, Llywydd NFU Cymru, yn un o gannoedd o ffermwyr y genedl sydd wedi profi effeithiau dinistriol yr afiechyd.

“Dw i wedi cael helynt yn ddiweddar,” meddai wrth golwg360.

“Am y tro cyntaf erioed yn fy mywyd, mae 46 o wartheg wedi mynd i lawr.

“Dim ond deg anifail dw i wedi’u prynu i mewn i’r ffarm yn yr wyth mlynedd diwethaf, ac rydyn ni’n eithaf llym o ran ein diogelwch.

“Mae dros 600 o ffermydd ar draws Cymru o dan warchae tiwbercwlosis ar hyn o bryd, ac mae’n achosi poen fawr.”

Fe wnaeth arolwg NFU Cymru ganfod hefyd fod dros 93% o bobol yn “hynod bryderus” neu’n “bryderus iawn” am y diciâu mewn gwartheg, tra bod 89% yn credu bod dull Llywodraeth Cymru o ddileu’r diciâu mewn gwartheg yn “wael iawn” neu’n “weddol wael”.

Cyfnod caled i ffermwyr

Dywed Roger Lewis, cadeirydd Grŵp Ffocws NFU Cymru ar gyfer y diciâu, fod angen gwneud mwy i atal y lledaeniad.

“Nid yn unig mae’r clefyd ofnadwy hwn yn cael effaith economaidd ar ffermwyr, ond mae’r dinistr o orfod gwylio’ch gwartheg, llawer ohonyn nhw wedi’u magu o’u genedigaeth, yn cael eu saethu o’ch blaen yn cael effaith aruthrol ar eich iechyd meddwl a’ch lles,” meddai.

Daw’r pwysau ychwanegol yn sgil y diciâu ar ben y pryderon ariannol sy’n wynebu ffermwyr wrth iddyn nhw baratoi i groesawu’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy.

Yn ôl Aled Jones, mae’n hanfodol fod pobol yn cymryd diddordeb mewn materion sy’n effeithio ar y diwydiant amaeth, gan eu bod nhw’n berthnasol i bawb yn y pen draw.

“Mi ddylai pawb gymryd diddordeb oherwydd ar ddiwedd y dydd mae angen i bobol sylweddoli bod materion amaethyddol yn lleihau faint o fwyd caiff ei gynhyrchu,” meddai.

“Mae pobol wedi gweld effeithiau llifogydd diweddar a thannau a sychder o gwmpas y byd sydd wedi effeithio faint o fwyd caiff ei gynhyrchu.

“Mae twf ym mhoblogaeth y byd yn aruthrol o uchel.

“Mae hyn yn poeni rhywun braidd. Sut ydyn ni’n mynd i ddygymod efo darparu bwyd pan mae’r tir sydd gennym ni i gynhyrchu’r bwyd yn mynd yn llai?”

Ymateb Llywodraeth ymru

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod yn benderfynol o ddileu y diciâu mewn gwartheg trwy eu Cynllun Cyflawni.

“Rydym yn cydnabod bod y sefyllfa o ran TB yn amrywio’n sylweddol ar draws Cymru, a dyna pam rydym yn gweithredu mewn modd sy’n targedu gwahanol ardaloedd,” meddai.

“At ei gilydd mae cynnydd yn cael ei gyflawni ledled Cymru, gyda nifer yr achosion newydd yn lleihau dros yr hirdymor.

“Mae pob achos unigol o TB yn peri gofid ac yn cael effaith enfawr ar y ffermwr dan sylw, na ellir ei ddiystyru.

“Mae Prosiect Sir Benfro ar waith ac mae’n enghraifft wych o fenter gydweithredol sy’n cael ei harwain gan y diwydiant – gan archwilio dulliau newydd sy’n galluogi milfeddygon a ffermwyr i wneud penderfyniadau doeth am atal a rheoli clefydau, a hynny ar lefel leol.

“Rydym wedi pwysleisio o’r dechrau’n deg na all y Llywodraeth ddileu TB ar ei phen ei hun. Mae’n rhaid i ni weithio mewn partneriaeth.

“Mae’n hollbwysig sicrhau bod ffermwyr yn cydweithio’n agos gyda’u milfeddygon, ar draws Cymru, er mwyn diogelu buchesi, ceisio atal TB a hefyd er mwyn mynd i’r afael ag achosion os byddant yn digwydd.

“Ni all y Llywodraeth ddileu TB ar ei phen ei hun.

“Mae gweithio mewn partneriaeth â’n ffermwyr a’n milfeddygon yn hanfodol er mwyn cyrraedd ein nod cyffredin o Gymru heb TB.”