Mae’r asesiad effaith ar y Cynllun Ffermio Cynaliadwy yn un “gwirioneddol frawychus” sy’n “achosi pobol i aros yn effro trwy’r nos”, yn ôl Llywydd NFU Cymru.

Mae’r ymgynghoriad diweddaraf ar y cynlluniau, a’r trydydd ymgynghoriad ers 2018, eisoes wedi’i gyhoeddi, ynghyd ag asesiad effaith gafodd ei gomisiynu gan Lywodraeth Cymru.

Noda’r ymgynghoriad y byddai disgwyl i ffermwyr Cymru roi 10% o’u tir i blannu coed os ydyn nhw am hawlio’r cymorth ariannol.

Fodd bynnag, mae’r asesiad effaith wedi canfod, y byddai Cymru’n gweld gostyngiad o 122,000 mewn niferoedd gwartheg neu 800,000 o ddefaid pe bai 100% o ffermydd Cymru yn ymuno â’r cynllun.

Yn ogystal, byddai gostyngiad o 11% yn y bobol sy’n cael eu cyflogi mewn amaethyddiaeth, ac oddeutu £199m yn llai o incwm yn dod i mewn i ffermydd Cymru.

“Os dyw hynny ddim yn sobri rhywun, wyddwn i ddim be’ wneith,” meddai Aled Jones wrth golwg360.

“Mae o’n wirioneddol frawychus.”

Plannu coed ddim yn opsiwn i rai

Y Cynllun Ffermio Cynaliadwy yw un o’r polisïau amaeth cyntaf i gael eu llunio gan Lywodraeth Cymru ers ymadawiad y Deyrnas Unedig â’r Undeb Ewropeaidd.

Dywed Aled Jones fod ffermwyr wedi bod yn ystyried goblygiadau’r newidiadau a’r effaith fyddan nhw’n ei chael ar eu ffermydd.

Er nad yw undeb NFU Cymru’n gwrthwynebu plannu coed yn gyffredinol, yn eu strategaeth Tyfu Gyda’n Gilydd buon nhw’n ystyried sut i wneud y defnydd gorau o goed.

Yn ôl Aled Jones, doedd yr ymgynghoriad gan Lywodraeth Cymru yng Ngorffennaf 2022 ddim yn ystyried bod rhai amaethwyr yn ffermio ar dir comin neu ar dir mewn cynefinoedd lle nad oes ganddyn nhw’r hawl i blannu rhagor o goed.

“Dydw i ddim yn meddwl bod y Llywodraeth wedi sylweddoli, pe bai coed yn cael eu rhoi ar dir cynhyrchiol mae gwerth y tir hwnnw’n gostwng yn eithaf sylweddol o tua 10,000 neu 12,000 yr erw i 3,000 neu 4,000 yr erw,” meddai.

“Rhaid sylweddoli, pan wyt ti’n benthyg arian o’r banc, mae o fel arfer ar sail dy asedau di.”

Effeithio ar y diwydiant cyfan

Wedi ymateb ffermwyr i’r ymgynghoriad yn 2022, mae Llywodraeth Cymru yn derbyn nad yw’n bosib i bob ffermwr blannu coed ar eu tir.

Fodd bynnag, maen nhw wedi cadw at y ffigwr o 10% ar gyfer pawb arall.

“Ar y tir ble mae posib plannu coed, maen nhw’n dal yn mynnu bod angen 10%,” meddai Aled Jones.

“Allwn ni byth â derbyn y math yma o bolisi, sydd yn mynd i ddifetha economi wledig ar draws Cymru gyfan; mae o’n wirioneddol ddifrifol.

“Dw i ym marchnad Caerfyrddin, ac maen nhw’n dibynnu ar wartheg a defaid yn dod yma i gael eu gwerthu.

“Bydd cwmnïau sydd yn darparu bwydydd anifeiliaid, milfeddygon, y cwmnïau sy’n darparu peiriannau i ffermydd ac ati i gyd yn cael eu heffeithio.

“Efallai y bydd 5,500 yn llai o bobol mewn amaethyddiaeth, ond gellir dyblu neu dreblu hynny wrth ystyried y busnesau gwledig sydd am gael eu heffeithio.

“Mae’r hyn maen nhw’n ymgynghori arno fo’n achosi pobol i aros yn effro trwy’r nos.”

Ymateb Llywodraeth Cymru

Dywed Llywodraeth Cymru mai bwriad yr asesiad yw helpu i lunio’r ymgynghoriad terfynol.

“Nid yw’n asesiad o’r ymgynghoriad presennol,” meddai llefarydd.

“Mae manylion llawn ein cynigion yn yr ymgynghoriad, a byddwn yn annog pobol i gymryd rhan a rhoi eu barn i ni.”

Bydd ymgynghoriad Cynllun Ffermio Cynaliadwy Llywodraeth Cymru yn cau ddydd Iau, Mawrth 7.