Mae is-bosfeistr gafodd ei garcharu ar gam o ganlyniad i sgandal Swyddfa’r Post yn galw am roi terfyn ar gytundebau cyhoeddus gyda Fujitsu yng Nghymru.
Roedd Noel Thomas o Gaerwen, Ynys Môn, yn un o fwy na 900 o is-bosfeistri gafodd eu herlyn ar gam wedi i ddiffygion gyda rhaglen gyfrifiadurol Horizon y cwmni achosi i filoedd o bunnoedd ddiflannu o systemau ledled gwledydd Prydain.
Dyfarnodd yr Uchel Lys yn 2019 fod nam ar system Fujitsu, ac yn 2021 cafodd euogfarnau Noel Thomas a 38 o is-bosfeistri eraill eu dileu.
Er hynny, cafodd dau gytundeb gwerth dros £2m eu rhoi i Fujitsu yn 2022.
Wrth siarad â Newyddion S4C, dywedodd Noel Thomas y byddai’n hoffi gweld cytundebau cyhoeddus Cymreig gyda Fujitsu yn dod i ben.
“Rwy’ wedi siomi, a dweud y gwir,” meddai.
“Pam eu bod nhw wedi mynd i lawr y lôn yma?
“Mae i’w weld bod gan Fujitsu gontracts yn bob man.
“Mae’n syndod bod y cytundebau yma yn mynd yn eu blaenau, yn y wlad yma – yng Nghymru.”
‘Cyfreithiol amheus’
Mae’r un pryderon eisoes wedi’u lleisio gan Delyth Jewell, Aelod Plaid Cymru o’r Senedd.
“Ers cael eu holi gan Blaid Cymru, mae’r Llywodraeth Lafur bellach wedi cadarnhau bod Fujitsu yn parhau i dderbyn miliynau o bunnoedd o arian cyhoeddus trwy gytundebau a ddyfarnwyd gan Drafnidiaeth Cymru,” meddai.
“Mae’n ffuantus i’r Llywodraeth Lafur geisio ymbellhau eu hunain oddi wrth unrhyw graffu ar y contractau a ddyfarnwyd i’r gorfforaeth gan eu bod wedi eu gwasanaethu gan Drafnidiaeth Cymru, wrth gyfaddef hefyd mai’r llywodraeth sy’n gweithredu fel yr awdurdod contractio.”
Fodd bynnag, dywed Mark Drakeford y byddai’n “gyfreithiol amheus” gwahardd Fujitsu rhag derbyn cytundebau yng Nghymru.
“Dw i ddim yn siŵr beth yw’r sail gyfreithiol i atal cwmni cwbl gyfreithiol rhag cystadlu am fusnes yng Nghymru ar sail methiant mewn un rhan o’u gweithrediad, er mor ddifrifol yw’r methiant hwnnw,” meddai.
Ar hyn o bryd, mae’r ddau gytundeb sydd gan Fujitsu yng Nghymru yn eu misoedd olaf, a dywed Mark Drakeford y byddan nhw’n cael eu hadolygu pan ddaw’r cytundebau i ben.
Mae Fujitsu eisoes wedi cyhoeddi eu bod nhw wedi penderfynu o’u gwirfodd na fyddan nhw’n ymgeisio am gytundebau gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig tra eu bod nhw’n aros am ganlyniad ymchwiliad cyhoeddus i’r sgandal.