Fe wnaeth asiantaeth gudd-wybodaeth Sbaen ysbïo ar Pere Aragonès, arweinydd Catalwnia, pan oedd e’n ddirprwy arlywydd, yn ôl adroddiadau.

Mae lle i gredu bod hyn wedi digwydd yn 2020.

Gan ddefnyddio pecyn ysbïo Pegasus, cafodd yr asiantaeth fynediad i’w ffôn symudol, gan honni ei fod yn bennaeth ar Bwyllgorau Amddiffyn y Weriniaeth, sy’n cael ei ystyried yn grŵp brawychol gan eu bod nhw o blaid annibyniaeth i Gatalwnia.

Daeth y cais cyntaf i ysbïo arno fe fis Gorffennaf 2019, a daeth dau gais arall rai misoedd yn ddiweddarach – y cyntaf yn dilyn achosion llys arweinwyr refferendwm “anghyfansoddiadol” 2017 a’r llall fis Ionawr 2020 pan oedd Pedro Sánchez yn cynnal trafodaethau yn y gobaith o ddod yn Brif Weinidog Sbaen.

Daw’r honiadau fel rhan o achos llys sydd ar y gweill, ac maen nhw’n datgelu bod barnwr wedi awdurdodi’r ysbïo ond nid y dulliau gafodd eu defnyddio na’r wybodaeth ddaeth i law yn sgil y weithred.

Mae Llywodraeth Catalwnia wedi beirniadu’r dystiolaeth am ei bod hi’n “gwbl annigonol” ac yn “sbwriel gwleidyddol” ar ôl cael ei golygu i raddau helaeth.

Ond mae Llywodraeth Sbaen yn dweud bod yr hyn ddigwyddodd yn “normal o fewn rheol y gyfraith”, ac nad oes angen cynnig eglurhad na chyfiawnhad pellach.

Yn ôl Llywodraeth Sbaen, fe ddigwyddodd yr ysbïo cyn iddyn nhw ddod i rym, pan oedd Plaid y Bobol wrth y llyw.