Dydy Syr Keir Starmer ddim yn mynd i ddechrau gwrando’n sydyn ar fater plismona, yn ôl Liz Saville Roberts, sy’n cyhuddo’r Blaid Lafur yn San Steffan o benderfynu eu bod nhw’n “gwybod yn well”.
Er nad yw e’n awyddus i blismona gael ei ddatganoli i Gymru, mae Mark Drakeford yn galw am bwerau i’r Senedd yn y maes, gan ddweud na ddylai Llafur fod yn chwarae’r “Brenin Canute” â phwerau datganoledig.
Yn sgil yr anghydweld rhwng y ddau arweinydd, mae arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan yn annog pleidleiswyr Llafur i ystyried “rhoi cyfle i Blaid Cymru”.
Daw hyn ar ôl i Jo Stevens, llefarydd materion Cymreig Llafur, wrthod derbyn casgliadau adroddiad y Comisiwn ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru, fu’n galw am ddatganoli pwerau dros blismona i’r Senedd.
‘Dim dylanwad gan Lafur Cymru’
Yn ôl Liz Saville Roberts, mae’r ffaith fod Jo Stevens wedi diystyrru safbwynt Llafur Cymru heb gynnal ymgynghoriad yn dangos nad oes gan Lafur Cymru ddylanwad o gwbl dros bolisi Llafur yn San Steffan.
Mae hi’n dweud y bydd aelodau seneddol Llafur yng Nghymru yn “ciwio am swyddi gweinidogol” pe bai Llafur yn dod i rym yn San Steffan, ac mae Plaid Cymru yn unig fyddai’n “sefyll i fyny dros fuddiannau Cymreig ac yn gorfodi’r Prif Weinidog nesaf i boeni am ein cymunedau”.
“Mi wnaeth Llafur y Deyrnas Unedig wfftio adroddiad cyfansoddiadol oedd yn garreg filltir wrth alw am ddatganoli plismona cyn i’r inc sychu, gan gefnu ar safbwynt hirsefydlog y Llywodraeth Lafur heb ymgynghoriad,” meddai aelod seneddol Dwyfor Meirionnydd.
“Dydy Llafur Cymru heb gael unrhyw ddylanwad dros bolisi eu plaid eu hunain ar lefel y Deyrnas Unedig – dydy Keir Starmer ddim yn mynd i ddechrau gwrando rŵan.
“Mae’r Prif Weinidog, yn gwbl briodol, yn dweud y gall y rhai sy’n gweithio ar lawr gwlad weld bod y fframwaith presennol yn esgeuluso pobol Cymru.
“Mae datganoli plismona’n hanfodol os ydyn ni am greu cymdeithas fwy diogel drwy alinio iechyd a pholisi cymdeithasol efo plismona a chyfiawnder.
“Mae’n destun rhwystredigaeth ddofn fod Keir Starmer a Jo Stevens wedi penderfynu eu bod nhw’n gwybod yn well.
“Mae’n debygol y bydd gan Keir Starmer yr allweddi i Downing Street yn fuan iawn, ac y bydd aelodau seneddol Llafur yn ciwio am swyddi gweinidogol.
“Plaid Cymru ydy’r unig blaid fydd yn sefyll i fyny dros fuddiannau Cymreig ac yn gorfodi’r Prif Weinidog nesaf i boeni am gymunedau.
“Byddwn i’n annog cefnogwyr Llafur Cymru sy’n rhoi gwerth ar bwerau Cymreig i roi cyfle i Blaid Cymru.”