Mae Partneriaeth Cymru yn Erbyn Sgamiau yn annog pobol hŷn a phobol sy’n agored i niwed i ofyn am gyngor cyn cytuno i insiwleiddio eu llofftydd ag ewyn chwistrellu.
Daw’r alwad wedi iddi ddod i’r amlwg fod rhai masnachwyr wedi bod yn camarwain pobol hŷn, ac yn manteisio ar y ffaith eu bod nhw’n poeni am eu biliau ynni cynyddol.
Er bod ewyn chwistrellu’n gyfreithlon, dim ond o dan amgylchiadau penodol a chyfyngedig y dylai gael ei ddefnyddio.
Mae elusennau wedi rhybuddio na ddylai gael ei ddefnyddio fel ateb cyflym i broblemau insiwleiddio llofftydd, oherwydd ei fod yn gallu achosi difrod strwythurol i dai a’i gwneud hi’n anoddach i werthu eiddo.
Dywed Sam Young, swyddog polisi AgeCymru, fod astudiaethau’n dangos mai pobol hŷn yw’r grŵp oedran mwyaf tebygol o gael eu targedu gan dwyllwyr.
Yn ôl Safonau Masnach Cenedlaethol, mae 85% o ddioddefwyr twyll ar stepen y drws dros 65 oed.
“Ym mhob sefyllfa, byddem yn annog pobol hŷn i geisio cyngor arbenigol yn gyntaf a hawlio unrhyw arian maen nhw’n gymwys amdano,” meddai.
“Mae gwerth miliynau o bunnoedd o gymorth, gan gynnwys gwerth £200m o Gredyd Pensiwn, yn mynd heb ei hawlio yng Nghymru bob blwyddyn.
“Mae Age Cymru yn cyhoeddi canllaw rhad ac am ddim o’r enw Mwy o Arian yn Eich Poced, sy’n cynnig gwybodaeth am ystod o fudd-daliadau a sut i fynd ati i’w hawlio.”
Gostwng gwerth tai
Dywed Care & Repair Cymru bod un cleient wedi talu mwy na £4,000 am gael insiwleiddio llofft sbwng chwistrell gafodd ei werthu iddyn nhw ar stepen y drws.
Daeth i’r amlwg fod y cleientiaid oedd yn cael eu twyllo yn bobol hŷn â phroblemau iechyd, gan amlaf.
Talodd cleient hŷn arall i gael inswleiddio llofft ewyn chwistrellu am £3,500 a chanfod nad oedd yn gallu gwerthu ei dŷ o ganlyniad.
Costiodd £2,000 i dynnu’r ewyn cyn gallu rhoi’r tŷ yn ôl ar y farchnad.
Yn ystod y ddeufis fuodd y tŷ oddi ar y farchnad, gostyngodd gwerth yr eiddo o £15,000.
Dywed Chris Jones, Prif Weithredwr Care & Repair Cymru, fod gwneud eich cartref yn fwy ynni-effeithlon yn bwysig i iechyd, cyllid a’r hinsawdd.
“Fodd bynnag, byddem yn annog pobol i fod yn wyliadwrus ac i wneud llawer o waith ymchwil cyn bwrw ymlaen â gwaith inswleiddio ewyn chwistrellu,” meddai.
“Mae gan rai awdurdodau lleol restrau masnachwyr mae modd ymddiried ynddyn nhw, a dylen nhw allu rhoi cyngor ar ymholiadau tai ac iechyd yr amgylchedd.”