Mae ymgyrch newydd Dyblu’r Defnydd gan Mentrau’r Iaith yn galw ar y cyhoedd i awgrymu ffyrdd o gynyddu’r defnydd o’r Gymraeg yn eu cymunedau.
Bydd y prosiect yn tynnu ar y rhwydwaith o 22 menter sydd gan Fentrau Iaith Cymru, er mwyn canolbwyntio ar anghenion ieithyddol o un ardal i’r llall.
Mae’r ffurflen ar-lein eisoes ar agor i unrhyw un gyfrannu eu syniadau.
Er bod angen edrych ar ffyrdd o gynyddu’r defnydd o’r Gymraeg ar lefel genedlaethol, dywed Myfanwy Jones, Cyfarwyddwr Mentrau Iaith Cymru, ei bod hi hefyd yn bwysig ystyried sut y gall anghenion ieithyddol amrywio ar sail lleoliad.
Atega fod anghenion ieithyddol yn gallu amrywio o un sir i’r llall, a hyd yn oed o fewn siroedd.
“Mae gen ti ardaloedd o ddwysedd uwch o siaradwyr Cymraeg lle mae’r ymyraethau sydd eu hangen yn wahanol iawn i ardaloedd ble mae canrannau is,” meddai wrth golwg360.
“Hyd yn oed o fewn cymuned, fe fydd gen ti sefyllfaoedd ieithyddol gwahanol yn seiledig ar ba gyfrwng iaith yw’r ysgol leol ac ati.
“Felly’r mwyaf lleol mae modd ymyrryd y gorau y bydden ni’n cyrraedd anghenion ieithyddol yr ardaloedd hynny.”
Er hynny, dywed ei bod yn croesawu datrysiadau ar gyfer Cymru gyfan.
“Rydyn ni’n annog pobol i edrych o’u cwmpas yn eu cymunedau,” meddai.
“Ond does dim rhaid i hynny fod yn gymuned ddaearyddol.
“Mae cymunedau i’w cael o fewn ysgolion neu o fewn capeli, efallai bod syniadau’n dod allan o gymunedau o ddiddordeb yn ogystal â chymunedau daearyddol.”
Croesawu safbwyntiau personol
Pan ddaw i ffyrdd posib o gynyddu’r defnydd o’r Gymraeg, mae Mentrau Iaith Cymru yn agored i amrywiaeth o syniadau.
“Y bwriad yw rhoi sianel gyfathrebu i’r cyhoedd iddyn nhw gael bwydo eu syniadau nhw i mewn ar sut i gynyddu’r defnydd o Gymraeg yn eu cymunedau,” meddai Myfanwy Jones.
“Rydyn ni’n ymwybodol bod gan bobol syniadau newydd a syniadau ffres.
“Mae hi wastad yn dda i glywed syniadau newydd, ac mae’n bwysig iawn ein bod ni’n cadw golwg ar yr hyn sydd yn digwydd o fewn cymunedau, ac mae hyn yn ffordd arall o wneud hynny.”
Ychwanega ei bod yn gobeithio y bydd safbwyntiau personol pobol yn bwydo i mewn i’r awgrymiadau.
“Os ydyn nhw yn digwydd bod yn rhywun sy’n gwneud lot gyda chwaraeon, efallai bydd ganddyn nhw awgrymiadau ar sut i gynyddu’r defnydd o’r Gymraeg o fewn chwaraeon,” meddai.
“Yn yr un modd, os ydyn nhw’n rhieni i bobol ifanc, efallai bydd ganddyn nhw syniadau ar sut i ddylanwadu ar arferion iaith pobol ifanc.
“Dydy e ddim i ni i ddweud beth ddaw i’r fei; mae’n bwysig bod pobol yn cael y cyfle i fynegi’r hyn maen nhw’n ei weld o’u cwmpas nhw.”
Does dim dyddiad cau penodol wedi’i osod ar gyfer y prosiect, a dywed Myfanwy Jones fod y Mentrau Iaith yn ymrwymo i edrych ar y syniadau bob chwe mis.
Byddan nhw wedyn yn ymateb i bob syniad ac yn didoli pa brosiectau mae modd eu rhedeg neu eu pasio ymlaen at bartner.
Y gobaith yw y bydd y prosiect yn un hirdymor, ac ychwanega fod posibilrwydd i’r person sydd wedi cynnig y syniad chwarae rôl yn natblygiad y prosiect.