Mae cyngor sir oedd wedi dileu eu polisi o gyfieithu enwau strydoedd i’r Gymraeg wrth osod arwyddion newydd wedi gwyrdroi eu penderfyniad.

Cafwyd Cyngor Sir Fynwy yn euog o dorri Safonau’r Gymraeg pan wnaethon nhw gytuno yn Rhagfyr 2021 i ddod â chyfieithu arwyddion strydoedd i ben.

Cyn hynny, roedden nhw’n cyfieithu enwau strydoedd wrth osod arwyddion newydd, ac mae’r Cynghorydd Catrin Maby, yr Aelod Cabinet dros Briffyrdd, bellach wedi cadarnhau’r tro pedol wrth ddychwelyd at y polisi gafodd ei ddileu yn 2021.

Dywed y Cyngor eu bod nhw wedi parhau i ddarparu arwyddion ag enwau Cymraeg a Saesneg ers y penderfyniad hwnnw gan Gomisiynydd y Gymraeg fis Awst 2022 fod y polisi gafodd ei fabwysiadu ddiwedd y flwyddyn gynt wedi’i gyflwyno yn groes i Safonau’r Gymraeg.

Er bod y polisi blaenorol, sydd bellach wedi’i ailgyflwyno, o ddarparu arwyddion stryd dwyieithog wedi mynd y tu hwnt i ofynion y Comisiynydd – gyda’r corff yn dweud ei bod yn dderbyniol darparu arwyddion newydd yn Saesneg yn unig – roedd y penderfyniad yn groes i’r safonau iaith gafodd eu cytuno gan y Cyngor.

Mae hynny oherwydd bod cefnu ar gyfieithiadau Cymraeg yn golygu bod y Cyngor yn gwneud llai er lles y Gymraeg nag y bu yn y gorffennol, a’u bod nhw wedi gwyrdroi’r “gweithgarwch blaengar” mewn perthynas â’r Gymraeg.

Dywedodd y Comisiynydd, ddaeth yn rhan o’r sefyllfa ar ôl i aelod o’r cyhoedd gwyno, fod y Cyngor wedi methu â rhoi ystyriaeth briodol i sut y byddai eu penderfyniad yn effeithio ar y Gymraeg.

Cefndir

Cafodd y penderfyniad, oedd yn galluogi arwyddion stryd i gael eu haddasu ar sail ‘tebyg at ei debyg’, gan olygu arwyddion uniaith – ei wneud yn 2021 pan oedd y Cyngor dan reolaeth y Ceidwadwyr, ac fe gafodd ei wneud yn sgil pryderon na fyddai arwyddion dwyieithog newydd yn cael ei gyhoeddi wrth gofnodi cyfeiriadau swyddogol.

Cyflwynodd y Cyngor y polisi wrth aros am eglurhad ynghylch a oes angen arwyddion dwyieithog.

Ers hynny, mae’r Comisiynydd wedi cadarnhau nad oes angen cyfieithu arwyddion newydd sy’n disodli hen arwyddion.

Mae’r Cynghorydd Catrin Maby bellach wedi cymeradwyo dychwelyd i’r polisi oedd yn cael ei ddefnyddio cyn Rhagfyr 2021, sef y bydd yr arwyddion yn ddwyieithog a’r Gymraeg yn gyntaf pan fydd angen disodli arwyddion neu osod arwyddion ychwanegol ar strydoedd ag enwau uniaith Saesneg.

Does dim newid i’r polisi ar gyfer enwi strydoedd newydd, fydd yn parhau i fod yn Gymraeg yn unig neu’n ddwyieithog, ond byth yn uniaith Saesneg.

Mae’r Polisi Enwi a Rhifo Strydoedd wedi cael ei aildrefnu, gydag adran newydd wedi’i chynnwys i dynnu sylw at ystyriaethau mewn perthynas â’r Gymraeg.

Bydd cyfieithu arwyddion newydd i ddisodli hen arwyddion bellach yn cael ei gofnodi ar y Gazetteer, ac mae adroddiad hefyd wedi cadarnhau nad yw cyfieithiadau’n enwau newydd, sy’n golygu na fydd angen cymryd camau megis cynnal ymgynghoriad â’r holl drigolion.