Mae Mark Drakeford yn dweud bod Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi bod yn ymddwyn yn “dwyllodrus” ers 2019 ac yn wahanol i lywodraeth flaenorol o unrhyw blaid.

Daeth ei sylwadau yn ystod sgwrs â Dr Hannah White, Cyfarwyddwr Sefydliad y Llywodraeth, heddiw (dydd Iau, Ionawr 25).

Wrth drafod y posibilrwydd o gael Llywodraeth Lafur yn Llundain a Chaerdydd, dywedodd y byddai’n gamsyniad awgrymu bod y ffordd mae’r llywodraethau’n cydweithio yn ymwneud ag agenda Llafur neu’r Ceidwadwyr.

“Fy safbwynt i ar y 25 mlynedd diwethaf yw fod y parch sylfaenol at y setliad datganoli wedi’i gynnal hyd at 2019 gan lywodraethau Llafur a llywodraethau Ceidwadol,” meddai.

“Doeddwn i ddim yn cytuno â llawer o’r hyn wnaeth Theresa May, ond doeddwn i byth yn amau bod ganddi ddealltwriaeth sylfaenol o ddatganoli yn y Deyrnas Unedig a pharch at y ffordd mae pwerau bellach.

“Mae’n wahaniaeth ffug i feddwl am hyn fel agenda Llafur ac agenda Dorïaidd.

“Yr hyn rydyn ni wedi’i gael ers 2019 yw llywodraeth dwyllodrus sydd wedi gweithredu’n wahanol i lywodraethau’r ddwy blaid wleidyddol hyd at y pwynt hwnnw am ugain mlynedd.”

Agwedd newydd at ddatganoli

Er hynny, ychwanegodd wrth drafod adroddiad y Comisiwn dros Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru fod yr agwedd tuag at ddatganoli wedi datblygu dipyn dros y chwarter canrif diwethaf.

“Rwy’n meddwl, os edrychaf yn ôl dros y 25 mlynedd, mae’r newid mwyaf arwyddocaol wedi bod mewn sefydliad oedd â dechreuadau petrusgar iawn, ac â llawer o amwysedd ynghylch a ddylai pwerau Cymru gael eu datganoli ai peidio,” meddai.

“Nid yw hynny’n wir heddiw; mae’r sefydliad ei hun wedi’i wreiddio yn y bywyd Cymreig, ac rwy’n meddwl ym meddyliau pobol sy’n byw yng Nghymru.

“Mae hynny’n rhoi platfform gwahanol iawn i ni.”

Dywed fod y newid mewn agweddau yn rhannol yn ganlyniad i Covid-19 a’r ffordd wnaeth y pandemig gyfrannu at y ddealltwriaeth ynghylch pa lywodraeth oedd yn rheoli beth.

“Effaith Covid oedd dod â datganoli i sylw pobol mewn ffordd nad yw erioed wedi’i wneud o’r blaen, oherwydd bod y pwerau oedd yn llywodraethu’r ffordd roedden ni’n byw ein bywydau bob dydd yn nwylo’r Senedd a Llywodraeth Cymru, mewn ffordd nad oedden ni wedi ei weld o’r blaen,” meddai.

“Rwy’n meddwl mewn argyfwng o’r fath mai’r adnodd mwyaf gwerthfawr sydd gennych chi fel llywodraeth yw ymddiriedaeth.

“Ac roedd llawer o’n hymdrech yn ymwneud â cheisio sicrhau bod y penderfyniadau wnaethon ni yn cael eu hesbonio i bobol mewn ffordd oedd yn parhau i sicrhau eu hymddiriedaeth yn y penderfyniadau oedd yn cael eu gwneud ar eu rhan.”

Annog y cyhoedd i gymryd rhan yn y sgwrs

Yn ôl Mark Drakeford, un o lwyddiannau’r Comisiwn ar Ddyfodol Cymru oedd ei allu i ddenu pobol i mewn i sgwrs na fydden nhw efallai wedi cymryd diddordeb ynddo yn wreiddiol.

“Rwy’n meddwl eu bod nhw wedi gwneud gwaith gwych yn arddangos ystod o dechnegau ymarferol y gallwch chi eu defnyddio i ennyn diddordeb pobol mewn sgwrs, hyd yn oed os oedd yn sgwrs nad oedd pobol efallai yn ei deall ar y dechrau,” meddai.

“Pan allwch chi dynnu pobol i mewn i’r sgwrs, yn gyflym iawn mae pobol yn dod i ddeall pam fod yr hyn sy’n cael ei drafod yn berthnasol iddyn nhw a pham fod ganddyn nhw farn amdano.

“Rwy’n awyddus iawn, nid yn unig bod Llywodraeth Cymru ond hefyd y Senedd yn tynnu ar y ddwy flynedd mae’r comisiwn wedi’u rhoi i mewn i’r adroddiad, ac yn addasu a mabwysiadu rhai o’r technegau er mwyn ennyn pobol i mewn i’r sgwrs.”

‘Ddim yn difaru’

Pan ofynnodd Dr Hannah White beth mae Mark Drakeford yn ei ddifaru yn ystod ei gyfnod yn Brif Weinidog, dywedodd fod yn well ganddo fe edrych i’r dyfodol nag i’r gorffennol.

“Dydw i wir ddim yn myfyrio llawer ar y mathau hynny o gwestiynau,” meddai.

“Mae gen i lawer mwy o ddiddordeb yn yr hyn sy’n rhaid i ni ei wneud dros yr wythnosau nesaf na’r hyn sydd wedi digwydd yn y gorffennol.”

Fodd bynnag, mae Andrew RT Davies, arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, wedi beirniadu’r ymateb hwnnw.

“Er efallai nad yw’r Prif Weinidog yn difaru ei amser wrth y llyw, mae pobol Cymru yn difaru llawer,” meddai.

“Gyda Mark Drakeford wrth y llyw, Llafur sydd wedi llywyddu rhestrau aros hiraf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn y Deyrnas Unedig, y canlyniadau PISA gwaethaf, ein lefelau cyflogaeth isaf, ac mae hyd yn oed wedi bwrw modurwyr gyda therfynau cyflymder 20m.y.a. holl gynhwysfawr chwerthinllyd.

“Mae Cymru’n gweiddi am ddychwelyd i synnwyr cyffredin, ond yn lle hynny bydd yr ymgeiswyr fydd yn cymryd yr awenau oddi wrth Mark Drakeford yn cyflawni mwy o’r un peth.”