Bydd llenwi bwlch ariannu o £14m yng nghyllideb Cyngor Sir Ynys Môn yn golygu torri gwasanaethau cyngor, cynyddu’r dreth gyngor, a defnyddio cronfeydd wrth gefn sydd eisoes yn brin, yn ôl yr arweinydd Llinos Medi.
Bydd yn rhaid i’r awdurdod wneud rhagor o doriadau, ac mae pob gwasanaeth yn cael ei asesu’n ofalus, meddai wrth siarad â golwg360.
Dydy’r cyllid gan Lywodraeth Cymru ddim yn ddigon i gwrdd â chostau’r Cyngor, felly bydd cynigion cychwynnol y Pwyllgor Gwaith ar gyfer cydbwyso Cyllideb Refeniw 2024 i 2025 yn cynnwys:
- bron i £5m o doriadau gwasanaeth – gan gynnwys gostyngiad o £1m yn y cyllidebau staffio, cynyddu ffioedd a pheidio ag ariannu’r cynnydd yng nghostau ysgolion yn llawn
- defnyddio mwy na £4m o Gronfeydd Cyffredinol y Cyngor a Chronfeydd Clustnodedig i helpu’r sefyllfa
- cynyddu premiwm y dreth gyngor ar ail gartrefi o 75% i 100%
- cynnydd o 9.8% yn y dreth gyngor, gan olygu cynnydd o £156.51 i £1,593 yn y bil cyfartalog ar gyfer eiddo Band D