Dydy ysbyty iechyd meddwl New Hall yn Wrecsam ddim bellach yn peri pryder, ac wedi cael ei ddad-gyfeirio, yn ôl adroddiad gan Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru.
Mae’r ysbyty dan reolaeth Mental Health Care UK, ac yn darparu gofal arbenigol ar gyfer hyd at ddeg o gleifion 18-64 oed sydd wedi cael diagnosis o anableddau dysgu ac anhwylderau meddyliol.
Cwblhaodd yr Arolygiaeth arolygiad dirybudd yn yr ysbyty ar dri diwrnod yn olynol ym mis Hydref, gan ganolbwyntio ar Ward Glaslyn a’r ward adferiad.
Yn dilyn arolygiad blaenorol fis Mawrth diwethaf, daeth yr ysbyty’n destun proses Gwasanaeth sy’n Peri Pryder yr Arolygiaeth, sy’n cael ei defnyddio lle mae methiannau sylweddol o fewn gwasanaeth, neu pan fydd pryderon yn cronni am wasanaeth neu leoliad.
O ganlyniad i hyn, gosododd yr Arolygiaeth amod ar y lleoliad i beidio â derbyn unrhyw gleifion newydd oherwydd lefel y risgiau gafodd eu nodi, gan gynnwys nifer o wallau wrth roi meddyginiaethau, argaeledd cyfarpar cynnal bywyd ac achosion o dorri rheolau diogelwch tân.
‘Gwelliannau sylweddol’
Ond roedd “gwelliannau sylweddol” i’w gweld yn yr arolygiad diweddaraf.
Daeth arolygwyr i’r casgliad fod y lleoliad wedi cryfhau meysydd roedd angen eu gwella ar unwaith yn flaenorol, gan gynnwys gweithdrefnau i roi gwybod am ddigwyddiadau a risgiau, a’r broses ar gyfer sicrhau bod cyfarpar cynnal bywyd brys ar gael.
Gwelodd yr arolygwyr dystiolaeth fod asesiadau risg tân yn cael eu diweddaru’n rheolaidd, a gwnaethon nhw nodi ei bod hi bellach yn hawdd cyrraedd allanfeydd tân.
Drwy gydol yr arolygiad dilynol, fe fu’r staff yn cyfathrebu â’r cleifion mewn ffordd garedig a pharchus.
Nododd yr arolygwyr fod prosesau da ar waith i gefnogi a diogelu anghenion corfforol y cleifion, gan gynnwys gweithgareddau sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn a chyswllt rheolaidd â’u teuluoedd.
Roedd gan bob un o’r cleifion fwy o le hefyd, a nododd yr arolygwyr y byddai hyn yn parhau ar ôl i’r gwasanaeth dderbyn mwy o gleifion.
Gwelodd yr arolygwyr rai ystafelloedd gwely oedd wedi cael eu personoli er mwyn creu naws cartrefol.
Roedd rheolwyr a staff y gwasanaeth wedi dangos dealltwriaeth gynhwysfawr o’r cleifion. Gwelsom aelodau o’r staff yn ymateb i ymddygiad heriol mewn ffordd ddigynnwrf a phriodol, ac roedd trefniadau da ar waith yn gyffredinol er mwyn mynd i’r afael â risgiau.
Cadarnhaodd yr arolygwyr fod y cleifion yn gallu cymryd rhan mewn cyfarfodydd yn rheolaidd a’u bod yn gallu cael gwybodaeth am eu gofal a’u triniaeth.
Gwelson nhw aelodau o’r staff yn cyfathrebu â’r cleifion mewn ffordd bersonol a brwdfrydig, yn unol ag anghenion ac arddull gyfathrebu ddewisol pob claf.
Roedd hyn yn cynnwys defnyddio adnoddau llafar, ysgrifenedig a lluniau yn ôl yr angen, gyda’r cleifion yn gallu defnyddio gwasanaethau eirioli a chynrychioli fyddai’n eu helpu nhw i ddeall a mynegi eu barn ar eu gofal a’u triniaeth.
Roedd y lleoliad yn lân ac mewn cyflwr da ar y cyfan, ond roedd rhai risgiau diogelwch o ran cynnal a chadw, gan gynnwys dyfeisiau cau diffygiol ar ddrysau tân.
Roedd tystiolaeth fod yr holl feddyginiaethau yn cael eu storio’n briodol, mewn cypyrddau diogel drwy ddrws dan glo, ond roedd anadlydd oedd wedi darfod ac adrenalin oedd yn cael ei storio y tu allan i’r pecyn arferol allai beri oedi cyn rhoi meddyginiaeth mewn argyfwng.
Gwnaeth yr arolygwyr uwchgyfeirio’r mater hwn i’r staff yn ystod yr arolygiad, a chafodd camau eu cymryd ar unwaith i fynd i’r afael ag e.
Nododd yr arolygwyr agweddau ar brosesau gwirio stoc y gellid eu hatgyfnerthu, ond roedd y lleoliad yn ymwybodol o’r materion hyn ac wrthi’n eu gwella.
Ers yr arolygiad diwethaf, mae trefniadau cryfach ar waith mewn perthynas â storio, mynediad a gwirio cyfarpar brys, gan gynnwys y diffibriliwr a thorwyr clymau.
Roedd y cyfarpar bellach yn cael ei storio mewn lleoliad priodol lle gallai’r staff i gyd gael gafael arno.
Roedd y staff yn ymwybodol o’r lleoliad a sut i gael gafael ar eitemau pe bai argyfwng yn codi.
Ond nododd yr arolygwyr y gellid cryfhau agweddau ar drefniadau cadw cofnodion yr ysbyty, er enghraifft drwy sicrhau bod cynlluniau yn cael eu dyddio’n gywir a bod cynlluniau sydd wedi darfod yn cael eu marcio’n glir i ddynodi hynny.
Roedd yr adborth gan y staff yn gadarnhaol ar y cyfan, ac roedd bron pob aelod o’r staff yn cytuno y bydden nhw’n fodlon ar safon y gofal sy’n cael ei ddarparu gan y sefydliad i’w ffrindiau neu deulu.
Roedd lefelau da o gydymffurfiaeth â hyfforddiant gorfodol ac arbenigol.
Fodd bynnag, o ganlyniad i wahaniaethau yn y ffordd y caiff data ei gofnodi, mae angen gwella canrannau cwblhau mewn sawl maes hyfforddiant.
Roedd y lleoliad wedi llwyddo i lenwi sawl swydd nyrsio yn ddiweddar er mwyn cefnogi gofal parhaus ac adnabyddiaeth o’r cleifion.
‘Calonogol’
“Mae’n galonogol gweld bod gwelliannau wedi’u gwneud ers ein harolygiad blaenorol o Ysbyty New Hall er mwyn sicrhau bod y cleifion yn cael gofal diogel ac effeithiol,” meddai Alun Jones, Prif Weithredwr Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru.
“Mae’n rhaid i’r lleoliad sicrhau bod y mesurau hyn yn parhau i fod yn weithredol a bod y prosesau a roddwyd ar waith yn gynaliadwy nawr ac yn y dyfodol.
“Byddwn yn parhau i ymgysylltu â’r gwasanaeth er mwyn sicrhau y bydd y cynnydd yn erbyn ein canfyddiadau yn mynd yn ei flaen ac yn cael ei wella.”