Mae’r naturiaethwr Iolo Williams yn gofyn i bawb fynd allan i wylio adar fel rhan o ddigwyddiad Gwylio Adar yr Ardd yr RSPB y penwythnos hwn (Ionawr 26-28).
Fel rhan o’r ymgyrch, mae’n gwahodd unrhyw un i dreulio awr yn eu gardd yn cyfri adar.
Y digwyddiad blynyddol, sydd wedi’i gynnal 44 o weithiau o’r blaen, yw’r arolwg mwyaf yn y byd o fywyd gwyllt yr ardd.
Er mwyn cymryd rhan, mae gofyn i bobol wylio’r adar sy’n glanio yn yr ardd, neu unrhyw ardal werdd leol, a chofnodi’r nifer uchaf o bob rhywogaeth maen nhw’n ei gweld ar unrhyw un adeg.
“Mae gofyn i bawb gymryd rhan dydd Gwener, dydd Sadwrn neu ddydd Sul – dim ond awr,” meddai Iolo Williams wrth golwg360.
“Rydych chi’n cyfri’r adar yn yr ardd, a chael uchafswm y rhywogaeth ar unrhyw amser ar gyfer pob rhywogaeth.
“Hynny ydy, deudwch eich bod chi’n gweld pedwar titw tomos las, rydych chi’n nodi pedwar titw tomos las; efallai o fewn yr awr eich bod chi’n gweld pump neu chwech a fyddwch chi’n croesi’r pedwar allan a rhoi nodyn mai chwech ydy’r mwyaf i chi eu gweld.
“Rydych chi’n gwneud yr un peth efo’r deryn, robin goch ac yn y blaen.
“Dim cyfanswm yr adar i gyd rydych chi’n eu gweld drwy’r ardd, ond y nifer fwyaf o un rhywogaeth rydych chi’n ei gweld ar un tro yn yr ardd.”
‘Gwybodaeth bwysig’
Y llynedd, fe wnaeth dros 26,000 o unigolion a thimau o wyddonwyr-ddinasyddion yng ngwledydd Prydain gyflwyno’u hatebion, gan gyfri dros hanner miliwn o adar.
“Mae o’n ffordd wych i rieni a phlant, neu Taid a Nain a phlant, gael mwynhau gwneud rhywbeth efo’i gilydd,” meddai Iolo Williams wedyn.
“Os ydych chi’n poeni eich bod chi ddim yn adnabod adar yr ardd yn rhy dda, dydy o ddim ots.
“Mae yna gymorth ar-lein, os ewch chi i wefan yr RSPB, mae’r canllawiau i gyd fan yna a rhestr o’r adar a sut i’w hadnabod nhw.
“Mae o’n boblogaidd ofnadwy, ac mae’r wybodaeth mae [RSPB Cymru] yn ei chael yn bwysig dros ben.”
‘Rhan fach i helpu’
Ers i’r Senedd ddatgan argyfwng natur a hinsawdd ddwy flynedd yn ôl, mae RSPB Cymru’n dweud ein bod ni wedi cyrraedd y fan lle nad oes modd goddef rhagor o oedi.
Rhaid i wleidyddion weithredu, meddai’r elusen, ond yn y cyfamser mae’r digwyddiad yn gyfle i bawb anfon neges fod Cymru eisiau achub byd natur cyn ei bod hi’n rhy hwyr, medden nhw.
“Rydyn ni am i bawb ledled Cymru ailgysylltu â byd natur eleni drwy gymryd rhan yn y digwyddiad gwylio adar – ac rydyn ni’n galw ar ein harweinwyr gwleidyddol i fod yn feiddgar ac yn uchelgeisiol drwy adfer ein byd natur fel blaenoriaeth,” meddai Alun Prichard, Cyfarwyddwr RSPB Cymru.
“Y gwir amdani yw na all byd natur aros – a nawr ydy’r amser i weithredu.
“Mae’r digwyddiad gwylio adar yr Ardd ar ddiwedd mis Ionawr yn un foment arbennig o’r flwyddyn lle gall pawb – o bob oedran, cefndir ac o bob cwr o Gymru – wneud eu rhan fach i helpu byd natur.”