Bydd pêl enfys arbennig yn cael ei defnyddio ar gyfer gemau’r Gynghrair Bêl-droed dros yr wythnos nesaf i ddathlu Mis Hanes LHDTC+.

Daw hyn fel rhan o bartneriaeth rhwng y Gynghrair Bêl-droed a PUMA, wrth i’r bêl gael ei defnyddio am y tro cyntaf erioed.

Bydd y bêl yn cael ei defnyddio ar gyfer pob gêm yn y Bencampwriaeth, yr Adran Gyntaf a’r Ail Adran rhwng Chwefror 16-24.

Mae’r enfys yn symbol o’r ffaith fod pêl-droed i bawb, ac mae hefyd yn cynrychioli’r camau mae pob clwb yn eu cymryd er mwyn sicrhau ei bod yn gêm gynhwysol.

Ar gyfer pob gôl fydd yn cael ei sgorio, bydd PUMA yn cyfrannu at Gronfa Cefnogwyr Dros Amrywiaeth LHDTC+, a bydd yr arian yn cael ei ddefnyddio i gefnogi amrywiaeth eang o brosiectau, digwyddiadau ac adnoddau codi ymwybyddiaeth.

Bydd partneriaid eraill yn cefnogi’r ymgyrch, gan gynnwys Sky Bet, noddwyr y Gynghrair, fydd yn rhoddi peli i glybiau a chefnogwyr ar lawr gwlad, tra bydd y bêl i’w gweld yng ngêm gyfrifiadurol EA SPORTS FC 24.

‘Balch’

“Mae’r Gynghrair Bêl-droed yn falch o gydweithio â PUMA ar y digwyddiad hanesyddol hwn i’r Gynghrair Bêl-droed gan ymuno â’n clybiau, ein partneriaid a chymunedau LHDTC+ i ddathlu Mis Hanes LHDTC+,” meddai Trevor Birch, Prif Weithredwr y Gynghrair Bêl-droed a chyn-gadeirydd Abertawe.

“Rydyn ni eisiau i’r Bêl Enfys fod yn gatalydd i ddechrau sgyrsiau a chodi ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o’r materion sy’n effeithio ar y gymuned LHDTC+, wrth i ni weithio er mwyn gwneud y gêm yn wirioneddol gynhwysol ac yn gynrychioladol o’r gymdeithas.”