Mae Ben Morris, y bowliwr sêm o’r Fenni, wedi ymestyn ei gytundeb gyda Chlwb Criced Morgannwg.
Daw’r cyhoeddiad wrth i Forgannwg ddweud bod y chwaraewr amryddawn Zain ul Hassan wedi ymestyn ei gytundeb yntau.
Chwaraeodd Morris, sy’n 20 oed, ddwy gêm yng Nghwpan Metro Bank y tymor diwethaf, y naill yn erbyn Swydd Derby a’r llall yn erbyn Swydd Gaerwrangon, ac mae e wedi creu argraff ar y clwb dros y flwyddyn ddiwethaf.
Dywed ei fod e wrth ei fodd yn cael ymestyn ei gytundeb, bod chwarae ei gêm gyntaf yn “brofiad gwych”, a’i fod yn gobeithio ennill ei le yn y tîm ym mhob fformat y tymor hwn.
Mae Zain ul Hassan wedi agor y batio a’r bowlio i Forgannwg, ac roedd e’n berfformiwr cyson yn ystod tymor 2023.
Mae e wedi canmol yr hen dîm hyfforddi, ac yn dweud ei fod e’n edrych ymlaen at gydweithio â Grant Bradburn, y prif hyfforddwr newydd.
‘Parhau i wella’
“Mae Ben yn parhau i wella, ac fe enillodd ei le yn haeddianol yn y tîm cyntaf y llynedd drwy berfformiadau da yn yr ail dîm ac i Bontarddulais yn Uwch Gynghrair De Cymru,” meddai Mark Wallace, Cyfarwyddwr Criced Morgannwg.
“Rydyn ni’n edrych ymlaen at weld Zain a Ben yn parhau i ddatblygu yn y clwb dros y tymhorau i ddod, ac rydyn ni wrth ein boddau eu bod nhw wedi llofnodi cytundebau newydd.”