Mae’r sylwebydd Jim Hamilton yn dweud bod tîm rygbi Cymru’n dangos nad oes angen addysg breifat er mwyn chwarae rygbi ar y lefel uchaf.

Mae tîm Warren Gatland wedi colli dwy gêm agoriadol Pencampwriaeth y Chwe Gwlad o drwch blewyn – o 27-26 yn erbyn yr Alban, ac o 16-14 yn erbyn Lloegr.

Chafodd yr un o’r chwaraewyr yng ngharfan Cymru ar gyfer y ddwy gêm addysg breifat, o gymharu â nifer gymharol sylweddol o chwaraewyr Lloegr a’r Alban aeth i ysgolion a cholegau preifat.

“Mae’r tîm Cymru hwn yn dangos nad oes angen i chi fynd i ysgolion preifat i chwarae rygbi ar y lefel uchaf,” meddai Jim Hamilton, oedd wedi chwarae dros yr Alban 63 o weithiau.

“Ff***** caled sydd ag angerdd dwfn i chwarae dros eu gwlad.”

Cafodd y cyn-chwaraewr ail reng Hamilton, gafodd ei eni yn Lloegr, ei addysg mewn ysgol breifat yn Coventry.

System Lloegr dan y lach

Wrth drafod y sylwadau ar X (Twitter gynt), mae nifer yn lleisio barn mai bai ysgolion gwladol yw’r diffyg rygbi sydd ar gael i blant mewn ysgolion uwchradd.

Mae rhai yn awgrymu bod y fath ysgolion “wedi colli diddordeb mewn chwaraeon fel rhan o addysg”, a bod angen “newid hynny”.

Ond mae eraill yn gweld bai ar ysgolion a cholegau “clyfar” yn Lloegr am “ddwyn” chwaraewyr o Gymru sy’n gymwys i gynrychioli Lloegr hefyd – yn eu plith mae colegau Hartpury, Oakham a Phrifysgol Caerwysg.

“Mae nifer yn newid eu teyrngarwch i Loegr dan 20, fel pe baen nhw ddim yn frith eisoes!” medd un beirniad.

Mae eraill yn gweld bai ar Undeb Rygbi Lloegr am fethu ag ehangu eu gorwelion a chwilio am chwaraewyr mewn ysgolion gwladol.