Mae’r prop Archie Griffin allan o garfan rygbi Cymru ag anaf i’w benglin.

Dioddefodd e’r anaf yn y golled o 16-14 yn erbyn Lloegr yn Twickenham dros y penwythnos.

Bydd e’n dychwelyd i’w glwb Caerfaddon i barhau â’i adferiad.

Mae disgwyl i chwaraewr arall gael ei alw i’r garfan yn ei le maes o law.