Mae Gerwyn Price wedi tynnu’n ôl o Bencampwriaeth Ddartiau’r Chwaraewyr, ar ôl cerdded allan cyn gorffen ei gêm.

Doedd y Cymro o sir Caerffili ddim yn hapus ag amodau’r arena yn Wigan, gan ddweud eu bod nhw’n “llai nag amatur”.

Roedd e ar ei hôl hi o 4-2 yn erbyn Brendan Dolan o Ogledd Iwerddon, gyda’r cyntaf i chwech yn ennill yr ornest.

“Amodau hollol bathetig,” meddai ar y cyfryngau cymdeithasol wedyn.

Wrth ymateb, mae’r PDC yn dweud eu bod nhw’n “deall ei fod e’n teimlo bod y lleoliad yn oer”.

Mae disgwyl i Gerwyn Price gystadlu yn yr Uwch Gynghrair yn Glasgow nos Iau (Chwefror 15).

‘Yr achwynwyr mwyaf

Yn y cyfamser, mae Luke Littler, y chwaraewr 17 oed, yn dweud mai Gerwyn Price yw’r achwynwr mwyaf yn y byd dartiau.

Daeth ei sylwadau tafod-yn-ei-foch wrth iddo fe gael ei holi mewn sesiwn holi ac ateb gan Sky Sports am ei gyd-chwaraewyr, gyda’r Sais ifanc yn dweud bod y Cymro wedi ei gorddi ar ôl un gêm.

“Byddwn i fwy na thebyg yn mynd am Gerwyn Price,” meddai.

“Hyd yn oed pan dw i’n ei guro fe, mae e’n dweud, “Pe bai rhywun yn rhoi dwbwl i fi, byddwn i’n ennill pob gêm!”