Fydd Clwb Rygbi Llanelli ddim yn cystadlu yng nghystadleuaeth newydd yr EDC (Cystadleuaeth Ddomestig Elit).
Daw’r cyhoeddiad wrth i naw o’r deg tîm fydd yn cystadlu gael eu cyhoeddi heddiw (dydd Llun, Chwefror 12).
Y rhai fydd yn cystadlu yw Aberafan, Abertawe Cwins Caerfyrddin, Casnewydd, Glyn Ebwy, Llanymddyfri, Pen-y-bont, Pont-y-pŵl a Rygbi Gogledd Cymru 1404.
Mae un lle ar ôl, ac mae’n debygol mai un o blith Caerdydd, Merthyr a Phontypridd fydd yn llenwi’r lle hwnnw.
Does dim lle i Gastell-nedd ar hyn o bryd.
‘Penderfyniad anodd’
Mae’r Scarlets wedi cyhoeddi datganiad yn dweud eu bod nhw wedi gwneud “penderfyniad anodd” y tymor diwethaf i dynnu’n ôl o Uwch Gynghrair Indigo “o ganlyniad i ddiffyg adnoddau chwarae er mwyn ateb gofynion y gystadleuaeth estynedig”.
Maen nhw’n dweud bod y tîm wedi bod yn “rhan bwysig o’r llwybr datblygu”, gan gynnig cyfleoedd i chwaraewyr y Scarlets, Cymru a’r Llewod ers sefydlu’r rhanbarthau yn 2003.
Ond maen nhw’n dweud bod lleihau maint carfan y Scarlets a phwysau ariannol rygbi proffesiynol.
Yn ôl y Scarlets, nhw fel tîm rhanbarthol sy’n cario gwir hanes a thraddodiad Llanelli, ac nid y clwb gafodd ei sefydlu yn 1872.
Y tîm hwn, medden nhw oedd wedi meithrin doniau chwaraewyr fel Albert Jenkins, Lewis Jones, Delme Thomas, Phil Bennett, Ray Gravell, Scott Quinnell, Stephen Jones, Derek Quinnell a Dwayne Peel.
“Efallai bod yr enw wedi esblygu dros y blynyddoedd o ‘Llanelli’ i ‘Scarlets Llanelli’ i ‘Scarlets’, ond rydyn ni wedi parhau’n glwb rygbi sy’n cynrychioli rhanbarth angerddol sy’n cwmpasu siroedd Ceredigion, Penfro a Chaerfyrddin,” medd y Scarlets.
“Mae ein hanes yn rhan o wead Parc y Scarlets, stadiwm wych sydd wedi bod yn gartref i ni ers symud o Barc y Strade yn 2008.”
Maen nhw’n dweud bod “treftadaeth y clwb wrth galon popeth”, ac y byddan nhw’n ymgynghori â chefnogwyr er mwyn sicrhau cydnabyddiaeth i enw ‘Llanelli’.
Dywed y Scarlets y byddan nhw’n parhau i gefnogi clybiau Llanymddyfri a Chwins Caerfyrddin fel clybiau sy’n bwydo’r rhanbarth yn swyddogol ac sydd wedi gwneud cais i ymuno â’r gystadleuaeth newydd.
Bydd y ddau glwb yn chwarae rhan bwysig yn natblygiad chwaraewyr y Scarlets, medden nhw.