Mae Clwb Pêl-droed Southampton yn awyddus i ddenu David Brooks yn barhaol, yn ôl y rheolwr Russell Martin.

Mae’r Cymro ar fenthyg o Bournemouth tan ddiwedd y tymor, ond “does dim opsiwn o gwbl” i’w brynu, medd cyn-reolwr Abertawe.

Creodd Brooks ddwy gôl yn y fuddugoliaeth o 5-3 dros Huddersfield dros y penwythnos, ar ôl dod i’r cae o’r fainc.

Mae disgwyl y gallai ddechrau gêm am y tro cyntaf wrth iddyn nhw deithio i Bristol City nos Fawrth (Chwefror 13).

“Pe bawn i’n cael y cyfle, byddwn i’n arwyddo Brooksy i gytundeb fod yn rhaid iddo fe aros gyda fi tan ei fod e’n ymddeol!” meddai Russell Martin.

“Ond dydy hynny ddim yn opsiwn.

“Does dim opsiwn o gwbl ar hyn o bryd, felly rydyn ni wir yn mwynhau gweithio gyda fe.

“Fel chwaraewr ac fel person, mae e’n wych.

“Mae e hyd yn oed yn well nag oeddwn i’n meddwl ei fod e, ac roedd gen i feddwl mawr ohono fe yn y lle cyntaf.”

Dylanwad Joe Allen

Fe wnaeth Joe Allen, chwaraewr canol cae Cymru ac Abertawe, ddarbwyllo Russell Martin i’w ddenu i Southampton, meddai.

“Unwaith mae Joe Allen yn dweud wrthoch chi fod rhywun yn berson a chwaraewr penigamp, yna rydych chi’n gwybod beth gewch chi,” meddai.

“Os edrychwch chi ar Brooksy a’r hyn mae e wedi dod drwyddi, rydych chi’n meddwl y byddech chi wrth eich bodd yn gweithio gyda fe.”