Mae David Lloyd o Wrecsam, cyn-gapten Clwb Criced Morgannwg, wedi’i benodi’n gapten newydd Clwb Criced Swydd Derby.

Mae un arall o gyn-chwaraewyr Morgannwg, Samit Patel, wedi’i benodi’n gapten ar y tîm mewn gemau undydd.

Hwn fydd tymor llawn cyntaf David Lloyd gyda’r clwb, ar ôl symud o Forgannwg – ar fenthyg yn wreiddiol, cyn gadael yn barhaol ar ddiwedd y tymor diwethaf am resymau teuluol.

Bu’n gapten ar Forgannwg am ddau dymor.

Dywed Mickey Arthur, Pennaeth Criced Swydd Derby, ei fod e wrth ei fodd â’r penodiadau.

“Bydd David yn dod ag elfen ymosodol i’r gêm bêl goch, a dw i’n credu y bydd ein haelodau a’n cefnogwyr yn mwynhau ein criced ym Mhencampwriaeth y Siroedd yn fawr iawn y tymor hwn,” meddai.

‘Anrhydedd’

“Mae hi wir yn anrhydedd i mi gael fy enwi’n gapten ar ein tîm pêl goch,” meddai David Lloyd.

“Mae gennon ni grŵp arbennig o chwaraewyr, staff hyfforddi a phobol o amgylch y clwb.

“Mae hwn yn gyfle cyffrous na fedrwn i mo’i wrthod.

“Mae gennon ni lawer o gynlluniau yn eu lle, a dw i’n meddwl y bydd o’n dymor da iawn i’n haelodau a’n cefnogwyr.”

Bydd e wrth y llyw am y tro cyntaf yng ngêm gynta’r tymor, wrth i Swydd Derby herio Morgannwg yng Nghaerdydd.

Capten Morgannwg yn ymuno â Swydd Derby ar fenthyg

Bydd David Lloyd yn ymuno’n barhaol y tymor nesaf, ond bydd yn cynrychioli ei sir newydd yn y gystadleuaeth 50 pelawd eleni hefyd