Mae George North, canolwr tîm rygbi Cymru, yn credu bod ganddyn nhw “sialens enfawr” o’u blaenau yn erbyn Lloegr nos Sadwrn (Chwefror 10).

Dydy Cymru ddim wedi curo’r Saeson ar eu tomen eu hunain yn Twickenham ers deuddeg o flynyddoedd bellach, a dim ond North o blith y pymtheg chwaraeodd y diwrnod hwnnw yn 2012 sy’n dal yn gwisgo’r crys coch heddiw.

Mae’n cyfaddef fod Twickenham yn “lle anodd i fynd”, ond mae hefyd yn dadlau y gallai diffyg profiad y garfan ifanc o chwarae ym mhencadlys Lloegr weithio o’u plaid nhw.

Bydd tîm Warren Gatland hefyd yn ceisio taro’n ôl ar ôl colli’r gêm agoriadol yn erbyn yr Alban.

“Mae’n lle anodd i fynd, ac mae’r sialens yn enfawr,” meddai’r chwaraewr fydd yn chwarae ei hanner canfed gêm ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad.

“Mae yna sgwad newydd ac mae’n beth da i ni, dw i’n meddwl, fod lot o’r bois heb fod yno yn y crys coch.

“Y sialens i ni nawr yw pwshio ymlaen a dechrau sut wnaethon ni orffen yn erbyn Sgotland.

“Mae’n siawns enfawr i’r bois gael y crys coch, a chadw’r crys am y gêm nesaf hefyd.

“Y ffaith bo nhw ddim yn gwybod a heb fod yno o’r blaen, mae’n beth da i fi, dw i’n meddwl. Dyna fel dw i’n teimlo.

“I gael sialens enfawr yna tu flaen i’r bois, i fi, dyna beth wnes i gael a beth wnes i hoffi hefyd, a dw i’n siwr fydd y bois ifainc hefyd.

“Mae’r bois wedi bod yn ardderchog, yn dod i mewn a ddim yn gwybod sut mae Gats [Warren Gatland, y prif hyfforddwr] yn gwneud ei waith, a sut mae’r coaches yn ei wneud o yn eu ffordd nhw.

“Fel oeddwn i’n dweud, mae’n sialens enfawr ond siawns i’r bois roi eu henw ar y crys.”

Hanner canfed gêm yn y Chwe Gwlad

Hon fydd hanner canfed gêm George North ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad, ac mae’n dweud fod yr ysfa i barhau i chwarae yn dal yn gryf ar hyn o bryd, er gwaethaf nifer o anafiadau dros y blynyddoedd diwethaf.

Dim ond Alun Wyn Jones, Gethin Jenkins, Stephen Jones a Martyn Williams sydd wedi cyrraedd 50 o gemau Chwe Gwlad dros Gymru cyn hyn.

Felly beth sy’n ei yrru ymlaen?

“I fi, y crys coch, y Three Feathers – o’r diwrnod cyntaf hyd heddiw,” meddai.

“Mae’n cadw fi’n gweithio’n galed a dod yn ôl am fwy.”

 

“Dim pwysau” ar Ioan Lloyd wrth herio Lloegr, medd Warren Gatland

Alun Rhys Chivers

Mae disgwyl i’r maswr ifanc ddechrau yn erbyn y Saeson yn Twickenham ddydd Sadwrn (Chwefror 10), ar ôl bod yn teimlo poen yn ei goes