Fydd tîm rygbi Cymru ddim yn rhoi pwysau ar y maswr ifanc Ioan Lloyd yn yr ornest fawr yn erbyn Lloegr yn Twickenham ddydd Sadwrn (Chwefror 10), yn ôl y prif hyfforddwr Warren Gatland.
Dydy Cymru ddim wedi curo Lloegr ar eu tomen eu hunain ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad ers 2012, a bydd tîm Gatland yn awyddus i daro’n ôl ar ôl y golled o 27-26 yn erbyn yr Alban yr wythnos ddiwethaf.
Mae carfan Cymru ar gyfer Pencampwriaeth y Chwe Gwlad yn un ifanc a di-brofiad ar y cyfan, ac mae disgwyl i safle’r maswr fod yn un allweddol wrth geisio symud y bêl rhwng y blaenwyr a’r olwyr mewn gêm sy’n debygol o fod yn un gorfforol iawn.
Lloyd sy’n debygol o wisgo’r crys rhif deg, gyda Chymru’n gorfod ymdopi ar ôl ymddeoliad Dan Biggar a’r anaf i Gareth Anscombe cyn dechrau’r twrnament, ynghyd â’r anaf i Sam Costelow wrth iddo fe orfod gadael y cae yn y gêm yn erbyn yr Albanwyr.
Fe fu pryderon ddechrau’r wythnos am Lloyd hefyd o ganlyniad i boen yn llinyn y gâr, ond fe fydd y chwaraewr 22 oed yn holliach ar ôl bod yn ymarfer yn llawn.
‘Greddf’
Mae Warren Gatland yn disgwyl i Ioan Lloyd ddangos greddf wrth chwarae yn erbyn y Saeson.
“Mae’n fater o fod yn glyfar,” meddai.
“Jyst mynd allan a bod yn reddfol.
“Gobeithio y caiff e’r gefnogaeth a chyfathrebu da y tu allan iddo fe i’w gyfarwyddo fe.
“Mae adegau pan fo’r gêm yn agor i fyny, ac rydych chi’n chwarae â’ch pen i fyny, ac mae e’n gallu gwneud hynny.
“Mae ganddo fe’r rhyddid i wneud hynny.
“Dyna’r neges gen i erioed – os oes gennych chi bedwar [chwaraewr] yn erbyn dau ar eich llinell gôl, dw i’n disgwyl i chi redeg.
“Ond mae llai o bwysau a llai o le [i wneud hynny yn erbyn Lloegr].
“Rhaid i chi reoli eich eiliadau.”
‘Dal i ddysgu’
Wrth drafod ei ddiffyg profiad, dywed Warren Gatland fod Ioan Lloyd yn dal i ddysgu sut i chwarae yn safle’r maswr ar y llwyfan rhyngwladol.
“Mae e’n gweithio’n galed ar ei gêm gicio gyda Neil Jenkins,” meddai.
“Mae hynny’n faes i’w wella.
“Iddo fe, mae e’n rhedwr medrus.
“Mae’n fater o berffeithio sawl safle – dydyn ni ddim am geisio’i roi e dan bwysau.
“Mae llawer llai o le fel bygythiad wrth redeg ar lefel profion.
“Mae ei allu i reoli’r gêm yn bwysig.
“Mae’n dal i fod yn ifanc yn nhermau profiad.
“Dyma’r tro cyntaf iddo fe ddechrau mewn rygbi rhyngwladol.”
Profiad George North
Un sydd ar y pegwn arall yn nhermau profiad yw George North, fydd yn chwarae yn ei hanner canfed gêm yn y Chwe Gwlad.
Mae Warren Gatland wedi awgrymu bod gan yr asgellwr a chanolwr sawl blwyddyn o rygbi o’i flaen e o hyd, ac fe fydd y profiad hwnnw’n bwysig i garfan mor ifanc, ac i’r capten ifanc Dafydd Jenkins sydd wedi camu i esgidiadau Jac Morgan a Dewi Lake, dau chwaraewr ifanc arall sydd wedi’u hanafu.
“Dw i’n credu bod ei hanner canfed gêm yn y Chwe Gwlad yn dipyn o gamp,” meddai Warren Gatland am George North.
“Yr hyn mae’n ei gynnig i’r garfan yw llais a llonyddwch.
“Mae’r grŵp wir yn ei barchu fe.
“Dw i’n credu bod ganddo fe ychydig o flynyddoedd ynddo fe o hyd.
“Gobeithio y gall y cyfuniad hwnnw gyda Nick [Tompkins, y canolwr] yn gallu blodeuo.”
Gêm gyffredin yn erbyn yr hen elyn?
Yn ôl Warren Gatland, mae Cymru a Lloegr yn wynebu cyfnod o newidiadau mawr ar hyn o bryd yn nhermau’r chwaraewyr, ond mae’n dweud na ddylid mynd yno’n ofni’r gwrthwynebwyr.
O’i ran e, mae gan Gatland bedair buddugoliaeth yn Twickenham i dynnu arnyn nhw er mwyn ysbrydoli’r chwaraewyr.
“Does dim ots pa dîm Cymru rydych chi’n ei ddewis,” meddai.
“Gall y chwaraewyr fynd allan a chwarae’n dda dros ben.
“Rhaid i ni adeiladu ar yr wythnos ddiwethaf.
“Dydyn ni ddim am fynd yno ag unrhyw fath o ofn.
“Dw i wir yn edrych ymlaen at yr her.”
Tro ar fyd yn Twickenham?
Wrth i Gymru geisio ennill yn Twickenham am y tro cyntaf ers deuddeg o flynyddoedd, does gan Warren Gatland ddim esboniad ynghylch diffyg buddugoliaethau Cymru yno ers hynny.
Ond yr hyn mae’n ei bwysleisio yw y gall Cymru ddisgwyl gêm gorfforol unwaith eto.
“Mae gemau prawf mewn rygbi fel arfer yn dynn am ugain munud,” meddai.
“Rydych chi yn erbyn pac mawr Lloegr, ac wedyn mae’r gêm yn agor i fyny yn yr ail hanner.
“Rydyn ni’n disgwyl rhywbeth tebyg gan Loegr ar y penwythnos.
“Roedden nhw’n eithaf uniongyrchol yn erbyn yr Eidal.
“Yn dibynnu ar y tywydd, mae’n bosib y byddan nhw’n ymosod mwy.
“Yn draddodiadol, dydyn nhw ddim yn rhoi llawer o gyfleoedd i chi.
“I ni, mae’n fater o ddechrau’n dda ac atal y dorf rhag canu ‘Swing Low, Sweet Chariot’.
“Rhaid i ni ddechrau’n well na’r wythnos ddiwethaf.
“Rhaid i ni leihau faint rydyn ni’n colli’r bêl yn ardal y dacl.
“Roedd yr ail hanner yn adlais o sut wnaethon ni chwarae yn erbyn Awstralia yng Nghwpan y Byd, gyda throsiant rhwng 10-11%.
“Fe wnaethon ni weithio’n galed yr wythnos hon wrth geisio gwella’r pethau hyn.”