Mae Cymro o Ben-y-bont ar Ogwr yn gobeithio gwireddu ei freuddwyd o gael chwarae pêl-droed Americanaidd yn yr NFL.
Ar hyn o bryd, mae Evan Williams yn chwarae American College Football i dîm Prifysgol Missouri Western State.
Bwriad y chwaraewr 23 oed ydy gwneud cais am le yng nghynghrair yr NFL – pinacl y byd pêl-droed Americanaidd.
Mae camerâu S4C wedi bod yn ei ddilyn yn ystod ei dymor olaf yn chwarae i dîm y brifysgol, ac mae’r rhaglen ar gael ar alw nawr a bydd ar S4C nos Iau (Chwefror 8) am 10yh.
Bydd y Super Bowl, uchafbwynt y bencampwriaeth yn yr NFL, rhwng y Kansas City Chiefs a’r San Francisco 49ers yn cael ei chynnal nos Sul (Chwefror 11).
‘Cynnig llawer mwy’
Bydd Y Gic Fawr yn dangos brwydr ac aberth bersonol Evan Williams wrth iddo fe geisio llwyddo yn un o gampau mwyaf cystadleuol a phoblogaidd y byd.
Yn ei arddegau, roedd yn chwarae rygbi i’r Gleision yng Nghaerdydd.
“Pryd oedwn i’n 16, wnaeth y Gleision dropio fi o’r garfan Development achos roeddwn i’n ‘rhy fach’,” meddai.
“Felly roedd rhaid i fi edrych am gyfleoedd newydd.”
Symudodd i’r Unol Daleithiau i ddilyn ysgoloriaeth rygbi, ond cyn hir cafodd wahoddiad i gymryd rhan mewn treialon pêl-droed Americanaidd i Missouri Western State, alma mater rhai o sêr mwyaf yr NFL.
Bob blwyddyn, mae mwy na miliwn o bobl ifanc yn yr Unol Daleithiau yn cystadlu mewn pêl-droed Americanaidd i Ysgolion Uwchradd.
Dim ond 6% sy’n llwyddo i gyrraedd lefel colegol, a llai na 1% o’r rheiny sy’n cyrraedd yr NFL.
Yn wahanol i chwaraeon colegol yn y Deyrnas Unedig, mae College Football yr UDA yn anferth, gyda 40,000 ar gyfartaledd yn mynychu’r gemau, a’r chwaraewyr yn adnabyddus dros y wlad.
“Mae American College Football yn cynnig llawer mwy na rygbi proffesiynol adref yn fy mhrofiad i,” meddai Evan Williams.
“Er enghraifft, mae’n gwneud i ystafelloedd newid Undeb Rygbi Cymru edrych yn fach.
“Mae’r campfeydd yn enfawr ac yn cynnwys yr holl dechnoleg ddiweddaraf – mae iPads ar bob rac, llawer o hyfforddwyr gwahanol, a chyfleuster dan do i ni fedru hyfforddi pryd bynnag sydd efo to digon uchel i ymarfer cicio.
“Mae’r holl gyfleusterau drud yma’n cael eu cyfiawnhau gyda pha mor fawr yw’r gamp allan yma.
“Baswn i’n dweud celwydd petawn i’n dweud ’mod i ddim yn drist fy mod i heb ei gwneud hi ym myd rygbi, achos fy mreuddwyd oedd chwarae dros Gymru.”
‘Ysbrydoli athletwyr eraill’
Dywed ei fod yn gobeithio y gall ei stori ysbrydoli athletwyr ifainc eraill, yn enwedig rhai sy’n clywed na fedran nhw wneud rhywbeth.
“Ro’n i’n benderfynol o wella fy sgiliau. Doeddwn i ddim yn hoffi clywed mod i’n rhy fach neu ddim am fedru bod yn llwyddiannus yn y gamp, felly nes i roi fy meddwl ar fod fy ngorau posib yn y gamp,” meddai.
“Mi fydda i wastad yn angerddol dros rygbi Cymru – mae wedi gwneud cymaint i mi; mae fy ngwreiddiau rygbi Cymreig yn gryf iawn.
“Os byddai’r Evan ifanc yn medru fy ngweld i rŵan, byddai o’n teimlo’n falch iawn.
“Faswn i’n hoffi i’r neges mae’r rhaglen yma’n ei chyfleu annog plant ifanc i ddilyn eu breuddwydion – i anelu am y top. Dyna yw’r prif beth.”