Mae George North wedi’i enwi yn nhîm rygbi Cymru i herio Lloegr yn Twickenham ddydd Sadwrn (Chwefror 10, 4.45yp), a hon fydd ei hanner canfed gêm ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad.

Bydd yn cadw cwmni i Nick Tompkins yng nghanol cae.

Ar ôl sgorio cais fel eilydd yn erbyn yr Alban yr wythnos ddiwethaf, bydd y blaenasgellwr Alex Mann yn dechrau am y tro cyntaf yn y crys coch, gan ymuno â’r blaenasgellwr Tommy Reffell a’r wythwr Aaron Wainwright yn y rheng ôl.

Y mewnwr Tomos Williams a’r maswr Ioan Lloyd fydd yr haneri.

Mae’r prop Gareth Thomas yn dychwelyd i’r rheng flaen ar ôl gwella o anaf, gan ymuno a’r prop arall Keiron Assiratti a’r bachwr Elliot Dee, oedd yn eilyddion yn y gêm agoriadol.

Adam Beard a’r capten Dafydd Jenkins fydd yn dechrau yn yr ail reng, gyda’r cefnwr Cameron Winnett a’r asgellwyr Rio Dyer a Josh Adams yn driawd yn y cefn.

Ymhlith yr eilyddion mae’r prop Archie Griffin, fydd yn ennill ei gap gyntaf pe bai’n dod i’r cae, a Cai Evans, fydd yn chwarae yn y Chwe Gwlad am y tro cyntaf pe bai’n gadael y fainc.

Hefyd ar y fainc mae Will Rowlands, Taine Basham, Keiran Hardy, Corey Domachowski, Ryan Elias a Mason Grady.

‘Rhaid i ni fod yn gywir a disgybledig’

“Rydyn ni wedi bod yn eithaf beirniadol ohonon ni’n hunain yr wythnos hon,” meddai’r prif hyfforddwr Warren Gatland.

“Doedd ein perfformiad hanner cyntaf ddydd Sadwrn ddim yn dderbyniol o ystyried y safonau rydyn ni wedi’u gosod i ni’n hunain. Allwn ni ddim dechrau fel yna eto’r Sadwrn hwn.

“Fe ddangoson ni yn ystod yr ail hanner yn erbyn yr Alban yr hyn rydyn ni’n gallu ei wneud.

“Mater o adeiladu ar hynny a chwarae gyda’r un cyflymdra a dwyster o’r dechrau yw’r bwriad yn Twickenham.

“Rydyn ni wedi gwneud rhai newidiadau i’r pymtheg fydd yn dechrau, sy’n cynnig cyfleoedd i’r chwaraewyr hynny.

“Mae’n rhaid i ni fod yn gywir a disgybledig yn ein chwarae.

“Mae hon yn gêm anferth – nid yn unig oherwydd yr hanes a’r hyn mae herio’r hen elyn yn ei olygu i bobol Cymru.

“Yn ychwanegol at hynny, mae hwn yn gyfle i ni gyrraedd y safonau disgwyliedg unwaith eto.

“Mae Lloegr eu hunain yn mynd trwy gyfnod o newid, ac felly byddwn yn mynd yno gyda hyder y gallwn adeiladu ar ein perfformiad ail hanner yr wythnos ddiwethaf, gan arddangos yr un hunan gred ddangoson ni yn ystod y deugain munud hwnnw hefyd.”

Tîm Cymru

15. C Winnett, 14. J Adams, 13. G. North, 12. N Tompkins, 11. R. Dyer, 10. I. Lloyd, 9. Tomos Williams; 1. G. Thomas, 2. E. Dee, 3. K. Assiratti, 4. D. Jenkins (capten), 5. A Beard, 6. A. Mann, 7. T Reffell, 8. A. Wainwright

Eilyddion

16. R. Elias, 17. C. Domachowski, 18. A. Griffin, 19. W. Rowlands, 20. T Basham, 21. K. Hardy, 22. C. Evans, 23. M. Grady


Yn y cyfamser, mae Cymru hefyd wedi cyhoeddi’r tîm dan 21 i herio Lloegr yng Nghaerfaddon nos Wener (Chwefror 9).

Mae tri newid ymhlith y blaenwyr i’r tîm gurodd yr Alban ym Mae Colwyn, gyda Freddie Chapman yn chwarae yn lle Jordan Morris, a Patrick Nelson ben draw’r rheng flaen, tra bod Harry Beddall yn codi o’r fainc, gyda Lucas de la Rua yn symud i ochr arall y rheng ôl.

Bydd Osian Thomas yn symud o’r rheng ôl i’r ail reng, ochr yn ochr â Jonny Green.

Tîm Cymru

15. H. Anderson, 14. H. Rees-Weldon, 13. L. Hennessey, 12. H. Ackerman (capten), 11. W. Price, 10. H Wilde, 9. I. Davies; 1. F. Chapman, 2. H. Thomas, 3. P. Nelson, 4. J. Green, 5. O. Thomas, 6. L de la Rua, 7. H Beddall, 8. M. Morse.

Eilyddion

16. E. Wood, 17. J. Morris, 18. S. Scott, 19. N. Thomas, 20. O Conquer, 21. Rh. Lewis, 22. H Ford, 23. M Page