Mae tîm pêl-droed Cymru wedi cael gwybod mai Gwlad yr Iâ, Montenegro a Thwrci fydd eu gwrthwynebwyr yn eu hymgyrch yng Nghynghrair y Cenhedloedd.

Cafodd yr enwau eu tynnu o’r het heddiw (dydd Iau, Chwefror 8), ac fe fydd tîm Rob Page yn chwarae yng Nghynghrair B, ar ôl disgyn o Gynghrair A yn 2022.

Bydd y gemau’n cael eu cynnal rhwng mis Medi a mis Tachwedd, gyda Chymru’n gorfod wynebu Twrci unwaith eto ar ôl i’r wlad honno orffen ar frig grŵp rhagbrofol Cymru ar gyfer yr Ewros fydd yn cael eu cynnal yn ddiweddarach eleni.

Gorffennodd Cymru yr ymgyrch honno’n drydydd, gyda’r ail safle’n mynd i Groatia.

Dydy eu gwrthwynebwyr eraill yn y grŵp ddim yn gwbl estron chwaith – fe wnaeth Cymru guro Gwlad yr Iâ mewn gêm gyfeillgar ddegawd yn ôl, tra bod Cymru a Montenegro yn yr un grŵp rhagbrofol ar gyfer Ewro 2012.

Ond cyn troi eu sylw at Gynghrair y Cenhedloedd, mae gan Gymru gêm fawr fis nesaf (Mawrth 21), wrth iddyn nhw herio’r Ffindir yn rownd derfynol y gemau ail gyfle i gyrraedd yr Ewros yn yr Almaen yn yr haf.

Pe baen nhw’n ennill y gêm honno, byddan nhw’n herio Gwlad Pwyl neu Estonia yr wythnos ganlynol.

‘Rhaid i ni fod yn bles’

“Rhaid i ni fod yn bles ag e,” meddai Rob Page wrth Sgorio wrth ymateb i’r grŵp.

“Pe baen ni’n gallu dewis y tri tîm, roedd e’n mynd o’n plaid ni tan bod Twrci yn dod allan ar y diwedd.

“Serch hynny, rydyn ni wedi chwarae yn eu herbyn nhw ddwywaith yn ddiweddar. Ac eithrio’r cerdyn coch yn Nhwrci, dw i’n credu ein bod ni wedi dal ein tir a gallai fod wedi bod yn ganlyniad gwahanol.

“Ar y cyfan, rhaid i ni fod yn bles.”