Mae dyn 24 oed wedi cael ei garcharu am naw mis am sarhau cyn-chwaraewr pêl-droed Abertawe’n hiliol.

Fe ddigwyddodd y drosedd gan Ryan Ferguson, dyn 24 oed o Lerpwl, yn erbyn Jordon Garrick fis Ebrill y llynedd.

Roedd e’n chwarae i Forest Green Rovers yn erbyn Fleetwood pan ddigwyddodd y drosedd.

Plediodd Ferguson yn euog i gyhuddiad o aflonyddu am resymau hiliol, methu â chydymffurfio â gorchymyn yn ei wahardd rhag mynd i bêl-droed, ac atal plismon rhag ei arestio.

Dywed Gwasanaeth Erlyn y Goron fod ymddygiad Ferguson yn “ffiaidd”, ac y dylai ei ddedfryd fod yn “alwad i ddeffro”.

Dywed y Bartneriaeth Pêl-droedwyr Du fod angen gwneud mwy i gefnogi chwaraewyr du yn well.

Chwaraeodd Jordon Garrick i’r Elyrch 14 o weithiau rhwng 2019 a 2023.