Mae Fujitsu wedi ymddiheuro am rôl y cwmni yn sgandal Swyddfa’r Post gan ei ddisgrifio fel “camweinyddiad cyfiawnder erchyll”.
Wrth roi tystiolaeth i bwyllgor o Aelodau Seneddol heddiw (dydd Mawrth, Ionawr 16), dywedodd Paul Patterson, Cyfarwyddwr Ewrop Fujitsu, y gallai staff fod wedi bod yn ymwybodol o “wallau” gyda meddalwedd TG Horizon cyn 2010.
Dywedodd wrth Bwyllgor Busnes a Masnach San Steffan fod “yn wir ddrwg” gan Fujitsu am eu rôl yn helpu Swyddfa’r Post i erlyn cannoedd o is-bostfeistri yn dilyn helynt Horizon.
Yr wythnos ddiwethaf, dywedodd Rishi Sunak, Prif Weinidog y Deyrnas Unedig, y byddai’n cyflwyno deddf newydd er mwyn gwyrdroi euogfarnau dros 700 o is-bostfeistri gafwyd yn euog ar gam o dwyll.
Byddan nhw hefyd yn derbyn iawndal o hyd at £75,000.
Ychwanegodd Paul Patterson fod gan y cwmni Japaneaidd “ddyletswydd moesol” i gyfrannu at y cynllun iawndal.
Dywedodd Kevin Hollinrake, Gweinidog Swyddfa’r Post, ei fod yn gobeithio y byddai pawb sydd â hawl i iawndal yn ei dderbyn erbyn mis Awst.
Mae Adran Busnes a Masnach San Steffan yn amcangyfrif y gallai’r bil iawndal gostio mwy na £1 biliwn, yn ôl Kevin Hollinrake.
Rhwng 1999 a 2015, roedd Swyddfa’r Post wedi erlyn cannoedd o is-bostfeistri yn seiliedig ar system Horizon. Roedd nifer, gan gynnwys Noel Thomas o Ynys Môn, wedi cael eu carcharu ar gam.