Fe fu cynnydd o 70% yn nifer y rhai gafodd eu harestio am yrru dan ddylanwad cyffuriau yn ne Cymru dros gyfnod yr ŵyl y llynedd, o gymharu â mis Rhagfyr 2022.

Fe fu cynnydd hefyd o 2.6% yn nifer yr arestiadau yfed a gyrru, meddai Heddlu’r De, gan ddweud ei fod wedi bod yn “gyfnod eithriadol o brysur” dros gyfnod yr ŵyl.

Rhwng Rhagfyr 1 a Ionawr 1, cynhaliodd swyddogion Heddlu’r De 3,145 o brofion anadl a 203 o brofion cyffuriau fel rhan o’r ymgyrch genedlaethol Op Limit.

Daeth i’r amlwg fod 157 o yrwyr dros y terfyn yfed a gyrru, a rhoddodd 87 o’r rhai gafodd eu profi am gyffuriau ganlyniad positif.

‘Effaith ddinistriol’

“Roedd hwn yn gyfnod eithriadol o brysur gydag arestiadau yfed a gyrru yn cynyddu 2.6% ac arestiadau gyrru dan ddylanwad cyffuriau yn cynyddu 70% ers 2022,” meddai’r Arolygydd Mike Prickett o Uned Plismona’r Ffyrdd Heddlu De Cymru.

“Rwy’n hynod o falch o fy swyddogion am eu gwaith yn tynnu’r gyrwyr hyn oddi ar y strydoedd.

“Yn anffodus, mae llawer o bobol yn parhau i ddewis gyrru tra dan ddylanwad alcohol a chyffuriau, ac mae hyn yn cael effaith ddinistriol ar gymunedau ac unigolion.

“Er bod cyfnod yr ŵyl drosodd, bydd swyddogion yn parhau i ddilyn y rhai sy’n benderfynol o dorri’r gyfraith.”

Fe rybuddiodd y gallai’r rhai sy’n cael eu canfod dros y terfyn yfed a gyrru, a/neu’n gyrru tra’u bod wedi’u amharu gan gyffuriau, dderbyn cofnod troseddol, ond hefyd gael cosb uchafswm o chwe mis yn y carchar, dirwy ddiderfyn a gwaharddiad gyrru awtomatig o flwyddyn o leiaf.