Does dim rhagor o goncrid diffygiol mewn ysgolion yng Nghymru, yn ôl Llywodraeth Cymru.
Ers yr haf, mae concrid RAAC wedi cael ei ganfod mewn dwy ysgol ym Môn, un yng Nghonwy, un yn Sir Ddinbych ac un yng Nghasnewydd.
Mae’r ysgolion hynny bellach ar agor i bob disgybl, ac mae arolygon wedi dangos nad yw’r concrid mewn unrhyw ysgol arall yn y wlad.
Math ysgafn o goncrid yw RAAC, gafodd ei ddefnyddio yn y sector adeiladu er mwyn codi ysgolion, colegau ac adeiladau eraill rhwng y 1950au a chanol y 1990au. Dydy’r concrid ond yn para tua 30 mlynedd.
Ar ôl iddo gael ei ganfod mewn ysgolion yn Lloegr dros yr haf, cafodd arolygon eu cynnal mewn ysgolion ledled gwledydd Prydain.
‘Nifer fach o adeiladau’
Bellach, mae concrid RAAC wedi cael ei ganfod mewn 231 o ysgolion yn Lloegr a 39 yn yr Alban.
“Dros y naw mlynedd ddiwethaf, rydyn ni wedi cyflwyno rhaglen helaeth ar gyfer adnewyddu ac adeiladu ysgolion a cholegau newydd, gan uwchraddio a rhoi rhai newydd yn lle’r rhai sydd fwyaf angen sylw am resymau diogelwch ac ansawdd,” meddai Jeremy Miles, Gweinidog Addysg a’r Gymraeg, wrth siarad ar Ynys Môn.
“Mae’r ffaith fod cyn lleied o achosion o RAAC wedi’u nodi yn ein hysgolion – dim ond pump yng Nghymru o’i gymharu â dros 270 mewn mannau eraill yn y Deyrnas Unedig – yn dyst i fuddsoddiad Llywodraeth Cymru yn ein canolfannau dysgu.
“Rwy’ am ddiolch i staff ein hysgolion, cynghorau, colegau a phrifysgolion am weithredu’n gyflym dros y misoedd diwethaf i gynnal yr asesiadau hyn; ac i sicrhau’r effaith leiaf posibl ar ddysgwyr yn y nifer fach o adeiladau a oedd yn cynnwys RAAC.”