Mae gwirfoddolwr o Ynys Môn wedi bod yn mesur y glaw yn yr un lle ers 75 mlynedd.

Bob bore am 9 o’r gloch ers 1958, mae Tom Bown, sy’n 85 oed, wedi bod yn mesur y glawiad yng Ngorsaf Hinsawdd Llwydiarth yr Esgob yn Llannerchymedd.

Yn ddiweddar, mae wedi derbyn cydnabyddiaeth gan Gyngor Naturiol Cymru a’r Swyddfa Dywydd am ei waith.

Derbyniodd wydryn tywydd mawr a phlac i ddathlu’r cyfnod.

‘Cyflawniad rhyfeddol’

Mae gorsaf hinsawdd Llwydiarth yr Esgob wedi bod yn darparu cyfansymiau glawiad dyddiol ers 1908, ac mae’r cofnodion yn cael eu defnyddio i ddadansoddi tueddiadau yn y tywydd, rhagweld llif afonydd, rheoleiddio afonydd ac ar gyfer rhybuddio am lifogydd, ymysg pethau eraill.

“Mae cymryd cofnodion bob dydd am dros 75 mlynedd yn gyflawniad rhyfeddol ac rydym yn hynod ddiolchgar,” meddai Clare Pillman, Prif Weithredwr Cyfoeth Naturiol Cymru.

“Mae arsyllwyr da a dibynadwy fel Mr Bown yn chwarae rhan bwysig iawn o’r gwaith o astudio’r hinsawdd yn y Deyrnas Unedig.

“Dim ond drwy wneud gwaith monitro mor gynhwysfawr y gallwn lunio cofnodion hirdymor cywir o’r hyn sy’n digwydd i’r hinsawdd.

“Mae ymdrechion Mr Bown yn cael eu gwerthfawrogi’n fawr o fewn y gymuned wyddonol ac mae’r data y mae wedi’i ddarparu yn bwysig ar gyfer y gwaith gwyddonol a wneir a’n harchifau hydrometrig.

“Hoffwn ddiolch i Mr Bown am ei ymroddiad dros y blynyddoedd a’i longyfarch am ei wasanaeth.”

Gorsaf hinsawdd Llwydiarth yr Esgob

‘Dibynnu ar wirfoddolwyr’

Dywed Stuart Herridge o’r Swyddfa Dywydd eu bod nhw, Cyfoeth Naturiol Cymru a chyrff gwyddonol eraill yn dibynnu ar ddata o ansawdd i wneud llawer o’u gwaith.

“Rydym yn dibynnu ar arsyllwyr gwirfoddol dibynadwy i gasglu rhywfaint o’r data hwn,” meddai.

“Mae cofnodi gwerth dros ganrif o ddata ar un safle yn rhywbeth prin a gwerthfawr.

“Fodd bynnag, mae’r ffaith mai un person sydd wedi bod yn gwneud y darlleniadau am 75 o’r blynyddoedd hyn yn rhyfeddol.

“Rydym yn hynod ddiolchgar i Mr Bown am ei ymroddiad a’i waith caled.

“Mae’r gymuned wyddonol mewn gwell sefyllfa diolch i’r gwaith a wneir gan wirfoddolwyr mor ymroddedig.”