Mae dynes sydd wedi’i chyhuddo o lofruddio bachgen bach saith oed yn Hwlffordd wedi’i chadw yn y ddalfa.

Cafodd yr heddlu eu galw i ddigwyddiad yn Heol y Farchnad Uchaf fore Mercher diwethaf (Ionawr 10), lle bu farw Louis Linse.

Mae Papaipit Linse, 42, wedi’i chyhuddo o’i lofruddio ac aeth hi gerbron Llys y Goron Abertawe drwy gyswllt fideo o garchar Eastwood Park yn Swydd Gaerloyw i wynebu’r cyhuddiad.

Cadarnhaodd ei henw drwy gyfieithydd ar y pryd, a chafodd ei chadw yn y ddalfa tan y gwrandawiad nesaf ar Chwefror 27.