Mae’r newyddion fod cwmni cludo ym Môn wedi mynd i ddwylo’r gweinyddwyr “yn sioc”, yn ôl cynghorydd lleol.

Roedd adroddiadau ar y cyfryngau cymdeithasol ddoe (dydd Llun, Ionawr 15) yn awgrymu bod cwmni Gwynedd Shipping wedi diswyddo gyrwyr ac aelodau eraill o staff.

Yn ôl Cyngor Ynys Môn, maen nhw ar ddeall bod y cwmni sydd â’u pencadlys yng Nghaergybi, “yn ôl pob tebyg”, wedi mynd i ddwylo’r gweinyddwyr.

Mae’r cwmni’n arbenigo mewn cludo nwyddau dros y môr ar gyfer y diwydiant adeiladu a dur, ac mae ganddyn nhw swyddfeydd yng Nglannau Dyfrdwy, Casnewydd a Dulyn hefyd.

‘Ofnadwy’

Dywed Glyn Haynes, sy’n cynrychioli ardal Parc a’r Mynydd yng Nghaergybi ar Gyngor Ynys Môn ac yn is-gadeirydd y Cyngor, fod y sefyllfa’n “ofnadwy”.

“Dw i’n dod o gefndir undebau llafur, ac mae rhai o’r gyrwyr ar gyfer Gwynedd Shipping yn fy undeb,” meddai’r cynghorydd Llafur wrth golwg360.

“Does yna fyth amser da i golli’ch gwaith, dw i wedi cael fy ngwneud yn redundant ddwywaith yn fy mywyd gwaith, a dydy o ddim yn brofiad braf iawn.

“Ond pan mae o’n dod fel yma allan o’r unlle, ac mae gennych chi deuluoedd i ofalu amdanyn nhw, a pha waith sydd o gwmpas… dw i ddim yn gwybod. Mae’n ofnadwy.

“Roedd o’n sioc; o beth dw i’n wybod, doedd [y gweithwyr] ddim yn ymwybodol.

“Dw i ddim yn gwybod a ydy o’n arwydd trist arall o Brexit, dw i ddim yn mynd i fynd yn ôl at hynny – a oedd y wlad yn barod ar ei gyfer? Dw i ddim yn gwybod os ydy hynny wedi cael effaith ar y colli swyddi, mae’n bosibilrwydd.”

Mae angen cefnogaeth ar y gweithwyr nawr – gan y cwmni, y llywodraeth a’r Cyngor Sir, ym mha bynnag ffordd mae modd ei roi, meddai.

“Dw i’n gwybod fod yna gwmnïau cludo eraill yn weithredol yn yr ardal ac yn hysbysebu am weithwyr, felly mae hynny’n un opsiwn.

“Ond yn ddelfrydol, os ydy hi’n bosib achub y cwmni mewn unrhyw ffurf, yna dyna’r sefyllfa ddelfrydol, a chadw cymaint o swyddi â phosib yn y broses.”

‘Darparu unrhyw gymorth posib’

Dywed llefarydd ar ran Cyngor Sir Ynys Môn eu bod nhw’n ceisio cysylltu â’r cwmni er mwyn darganfod mwy.

“Rydym yn deall bod Gwynedd Shipping, yn ôl pob tebyg, wedi mynd i ddwylo’r gweinyddwyr,” meddai.

“Ar hyn o bryd rydym yn ceisio cysylltu gyda’r cwmni er mwyn darganfod mwy am y sefyllfa bresennol.

“Bydd y Cyngor Sir yn darparu unrhyw gefnogaeth bosib i’r gweithwyr sydd wedi’u heffeithio, drwy gydweithio gyda Llywodraeth Cymru a phartneriaid eraill.”