Dywed Hywel Williams, Aelod Seneddol Plaid Cymru dros Arfon, ei fod yn ystyried gadael HSBC yn dilyn eu penderfyniad i gau eu llinell Gymraeg.
Daeth y llinell i ben ddoe (dydd Llun, Ionawr 16) er gwaetha’r ymgyrch hir a’r ymgais ar yr unfed awr ar ddeg i geisio’i hachub.
Yn ôl y banc, maen nhw wedi penderfynu cau’r llinell o ganlyniad i ddiffyg galw am wasanaeth Cymraeg dros y ffôn.
Bydd unrhyw alwadau Cymraeg bellach yn cael eu cyfeirio i’r llinell Saesneg, neu bydd modd i gwsmeriaid ofyn am alwad yn ôl yn Gymraeg allai gymryd hyd at dridiau i’w threfnu.
Cafodd gwleidyddion wybod am y penderfyniad i gau’r llinell Gymraeg mewn llythyr ym mis Tachwedd, ac mae’r mater wedi bod yn destun sesiynau seneddol, gydag un o benaethiaid y banc yn rhoi tystiolaeth ac un o bwyllgorau’r Senedd yn cyhuddo’r banc o drin siaradwyr Cymraeg yn “ddirmygus”.
Ond yn ôl HSBC, dim ond 22 o alwadau ar gyfartaledd mae’r llinell Gymraeg yn eu derbyn bob dydd.
Er gwaethaf un ymgais olaf gan Blaid Cymru yr wythnos ddiwethaf i gadw’r llinell Gymraeg ar agor, fe wnaeth HSBC wrthod gwneud tro pedol.
Mae’r banc bellach yn dweud na fyddan nhw’n cau’r un o ganghennau Cymru yn ystod 2024.
‘Rhedeg y gwasanaeth i lawr ers blynyddoedd’
Wrth ymateb, dywed Hywel Williams y bu’n gwsmer gyda’r banc ers hanner canrif, ond ei fod e bellach yn ystyried symud at fanc arall.
“Mae HSBC wedi bod yn rhedeg eu gwasanaeth ffôn Cymraeg i lawr ers blynyddoedd,” meddai ar X (Twitter gynt).
“Yn gwsmer ers 51 o flynyddoedd, dw i bob amser yn dewis siarad yn Gymraeg, ond yn ddiweddar dw i bron bo tro’n cael fy mhasio i siaradwr Saesneg.
“Mae hyn yn diffodd y galw.
“Efallai mai fy mlwyddyn rhif 51 fydd yr olaf.”