Bydd llenwi bwlch ariannu o £14m yn golygu torri gwasanaethau Cyngor Ynys Môn, cynyddu’r Dreth Gyngor a defnyddio cronfeydd wrth gefn.

Yn ôl Llinos Medi, arweinydd y Cyngor, dydy’r cyllid gan Lywodraeth Cymru’n ddigon i gwrdd â chostau’r Cyngor, ac felly bydd rhaid i’r awdurdod wneud rhagor o doriadau.

Bydd Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol y Cyngor Sir yn dechrau edrych ar Gyllideb Refeniw cychwynnol y Pwyllgor Gwaith ar gyfer 2024/25 heddiw (dydd Mawrth, Ionawr 16).

Gwaith cydbwyso yn dechrau

Mae pob gwasanaeth yn cael ei asesu’n ofalus, a bydd cynigion cychwynnol y Pwyllgor Gwaith ar gyfer cydbwyso Cyllideb Refeniw 2024/25 yn cynnwys:

  • bron i £5m o doriadau gwasanaeth – gan gynnwys gostyngiad o £1m yn y cyllidebau staffio, cynyddu ffioedd a pheidio ag ariannu’r cynnydd yng nghostau ysgolion yn llawn
  • defnyddio mwy na £4m o Gronfeydd Cyffredinol y Cyngor a Chronfeydd Clustnodedig i helpu’r sefyllfa
  • cynyddu premiwm y Dreth Gyngor ar ail gartrefi o 75% i 100%
  • cynnydd o 9.8% yn y Dreth Gyngor, gan olygu cynnydd o £156.51, i £1,593, yn y bil cyfartalog ar gyfer eiddo Band D.

£184.2m yw’r Gyllideb Refeniw arfaethedig ar gyfer 2024/25, a bydd y Cyngor Llawn yn cymeradwyo’r gyllideb derfynol ar Fawrth 7.

Mae’r rhagolygon ariannol ar gyfer 2025/26 yn wael hefyd, meddai’r Cyngor, a dydy’r cyllid gan Lywodraeth Cymru ddim yn debygol o gynyddu’n sylweddol, er bod disgwyl i’r galw am wasanaethau a chostau barhau i gynyddu.

Byddai parhau i ddefnyddio arian wrth gefn y Cyngor i gyllido’r gyllideb hefyd yn gwanhau sefyllfa ariannol gyffredinol y Cyngor, medden nhw.

‘Wedi torri i’r byw’

Wedi blynyddoedd o doriadau ariannol, does gan y Cyngor ddim dewis ond cynyddu’r Dreth Gyngor a thorri gwasanaethau, yn ôl Llinos Medi.

“Bydd creithiau degawd a mwy o lymder sydd i’w gweld ar hyd a lled ein cymunedau i’w gweld am flynyddoedd eto,” meddai.

“Fel Cyngor, rydym wedi torri i’r byw, a thorri mwy wedyn.

“Rydym wedi ceisio gwarchod gwasanaethau hanfodol cyhyd â phosib, ond nid yw’r cyllid gan Lywodraeth Cymru’n ddigon i gwrdd â’r costau cynyddol a wynebwn – gan gynnwys pensiynau, cyflogau a biliau ynni.

“Mae’r galw am ein gwasanaethau statudol yn cynyddu, yn enwedig gofal cymdeithasol ar gyfer plant ac oedolion, ac, fel Cyngor, bydd rhaid i ni gefnogi darparwyr gofal cymdeithasol wrth iddyn nhw wynebu costau cynyddol.

“Rydym yn deall y bydd cynyddu’r Dreth Gyngor unwaith eto a thorri gwasanaethau ddim yn cael ei groesawu.

“Ond nid oes gennym ddewis arall wedi blynyddoedd o doriadau ariannol.”

‘Mae’r dyfodol mor ddrwg â hynny’

Yn ôl y Cynghorydd Robin Williams, bydd trigolion yr ynys yn gweld rhai o’u gwasanaethau’n diflannu gyda ragolygon ariannol “yn debygol o waethygu”.

“Ar ôl gweld Cynghorau eraill yn Lloegr yn fethdalwyr i bob pwrpas, byddwn yn parhau i fod yn ddarbodus wrth osod y Gyllideb,” meddai deilydd y portffolio Cyllid.

“Defnyddiom gronfeydd wrth gefn y Cyngor y llynedd i gadw’r Dreth Gyngor cyn ised â phosib, a byddwn yn gwneud hynny eto eleni.

“Byddai Treth Gyngor Ynys Môn yn parhau i fod yr isaf yng Ngogledd Cymru, os yw’r Cyngor Llawn yn cefnogi ein cynigion, ac mae hynny’n rhoi rhywfaint o gysur inni.

“Serch hynny, mae’n rhaid i ni ganolbwyntio ar sicrhau cydbwysedd rhwng torri gwasanaethau, codi’r Dreth Gyngor a defnyddio arian wrth gefn y Cyngor i gydbwyso’r Gyllideb Refeniw arfaethedig.

“Yn anffodus, mae’r rhagolygon ariannol yn debygol o waethygu ar hyd a lled Cymru.

“Byddwn yn gweld gwasanaethau yr ydym yn eu cymryd yn ganiataol ar hyn o bryd yn diflannu.

“O safbwynt ariannol, mae’r dyfodol mor ddrwg â hynny.”