Bydd cic gynta’r gêm ddarbi fawr rhwng timau pêl-droed Abertawe a Chaerdydd ar Fawrth 16 yn gynt na’r disgwyl, gyda’r ornest yn cael ei darlledu’n fyw ar Sky Sports.

Roedd disgwyl i’r gêm yn Stadiwm Swansea.com ddechrau am 3yp yn wreiddiol, ond mae hi bellach wedi’i symud i 12.30yp.

Mae’r Elyrch wedi ennill saith o’r deg gêm ddarbi ddiwethaf, ond yr Adar Gleision aeth â hi o 2-0 y tro diwethaf iddyn nhw gyfarfod, yn Stadiwm Dinas Caerdydd, ym mis Medi.