Am yr ail flwyddyn yn olynol, cafodd Pencampwriaeth Snwcer Agored Cymru ei chynnal yn Venue Cymru yn Llandudno, ac am yr ail flwyddyn yn olynol chwaraewr o Loegr sydd ddim yn un o enwau mwyaf cyfarwydd y gamp enillodd y gystadleuaeth.

Ar ôl Robert Milkins y llynedd, Gary Wilson gododd Dlws Ray Reardon eleni a sicrhau gwobr o £80,000.

Curodd o chwaraewr arall o Loegr, Martin O’Donnell, o naw ffrâm i bedair yn y rownd derfynol.

Mae Wilson wedi codi o rif 16 y byd i rif 12 y byd, a daeth ei fuddugoliaeth yn Venue Cymru ddeufis ar ôl iddo ennill Pencampwriaeth Agored yr Alban yng Nghaeredin.

Roedd O’Donnell, oedd yn rhif 76 y byd ar ddechrau’r Bencampwriaeth, yn chwarae mewn rownd derfynol yn un o brif gystadlaethau’r gamp am y tro cyntaf ar ôl iddo fo greu sioc drwy guro pencampwr y byd, Luca Brecel, yn rownd yr wyth olaf.

Enillodd Wilson yn erbyn pencampwr y byd bedair gwaith, John Higgins, yn y rownd gyn-derfynol a chafodd Wilson y rhediad uchaf posibl o 147 yn yr ail ffrâm.

Roedd Higgins a Brecel ymhlith y ffefrynnau ar ddechrau’r wythnos yn Llandudno, ar ôl i rif un y byd, Ronnie O’Sullivan, dynnu ’nôl o’r gystadleuaeth i ofalu am ei iechyd meddwl ac ar ôl i rif dau y byd, Judd Trump, benderfynu peidio â chystadlu hefyd.

Un Cymro ymhlith yr wyth olaf

Unwaith eto, roedd y Bencampwriaeth yn un siomedig o safbwynt y chwaraewyr o Gymru.

Dim ond un o’r pymtheg Cymro yn y gystadleuaeth gyrhaeddodd rownd yr wyth olaf, sef Dominic Dale.

Dyma’r eildro yn unig i chwaraewr o Gymru gyrraedd yr wyth olaf ers i Michael White wneud hynny yn 2016.

Cyrhaeddodd Mark Williams y rownd gyn-derfynol yn 2021, ond eleni chwaraewr rhif 7 y byd o bedair i un yn erbyn rhif 25 y byd, Anthony McGill, yn rownd y 32 olaf.

Williams ydy’r unig Gymro sydd wedi ennill Pencampwriaeth Agored Cymru – yn 1996 ac 1999.