Mae Clwb Pêl-droed Sunderland wedi diswyddo’u rheolwr Michael Beale, ddyddiau’n unig cyn iddyn nhw herio Abertawe ddydd Sadwrn (Chwefror 24).

Daw ei ddiswyddiad ar ôl 13 o gemau a naw wythnos yn unig wrth y llyw.

Roedd Beale dan y lach hefyd ar ôl dweud nad oedd y cefnogwyr yng ngogledd-ddwyrain Lloegr wedi cymryd ato fe oherwydd fod ganddo fe acen Llundain.

Cafodd Beale ei gysylltu â swydd rheolwr Caerdydd rai blynyddoedd yn ôl, ar ôl i Mick McCarthy adael y clwb.

Yn ôl Beale, dylai cefnogwyr Sunderland fod wedi dangos “mwy o barch” ato fe, a rhoi’r gorau i “daflu negatifrwydd” ato.