Mae’r Scarlets wedi diswyddo Gareth Williams, eu hyfforddwr amddiffyn, ar ôl dechrau siomedig i’r tymor.

Daw hyn fel rhan o gyfres o newidiadau i dîm hyfforddi’r rhanbarth.

Cafodd ei benodi yn 2022, ar ôl bod yn aelod o dîm hyfforddi Cymru o dan Wayne Pivac.

Dywed y rhanbarth ei fod e wedi cael cynnig swydd yn hyfforddi’r academi, a’i fod e’n ystyried y cynnig hwnnw ar hyn o bryd.

Yn ôl y Scarlets, cafodd y penderfyniad i’w ddiswyddo ei wneud cyn y golled o 42-7 yn erbyn Munster nos Wener (Chwefror 16).

Newidiadau eraill

Yn sgil ailstrwythuro, bydd y prif hyforddwr Dwayne Peel yn arwain yr ymosod, gyda Jared Payne bellach yn gyfrifol am yr amddiffyn, yr olwyr a’r ymosod.

Mae Albert van den Berg (blaenwyr) ac Emyr Phillips (sgrym ac ardal y dacl) am barhau yn eu swyddi.