Mae Warren Gatland, prif hyfforddwr tîm rygbi Cymru, wedi cyhoeddi un newid i’w dîm i herio Iwerddon ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad yn Nulyn ddydd Sadwrn (Chwefror 24).

Bydd Sam Costelow yn dychwelyd i safle’r maswr ar gyfer y gêm fydd yn dechrau am 2.15yp, gyda Ioan Lloyd yn ôl ar y fainc.

Gallai’r eilydd Mackenzie Martin ennill ei gap cyntaf pe bai’n dod oddi ar y fainc, a byddai Dillon Lewis yn ymddangos yn y bencampwriaeth am y tro cyntaf eleni hefyd pe bai hwnnw’n dod i’r cae.

Mae Cymru wedi colli’r ddwy gêm agoriadol.

‘Her a hanner’

“Rydyn ni’n edrych ymlaen yn fawr at fynd i Ddulyn er mwyn profi’n hunain yn erbyn un o dimau gorau’r byd,” meddai Warren Gatland.

“Bydd hi’n her a hanner, ond mae’r garfan yn awchu i wynebu’r her honno.

“Rydyn ni wedi cymryd camau pendant i’r cyfeiriad cywir yn ystod yr wythnosau diwethaf – ac mae’n rhaid i ni ddysgu o brofiadau’r ddwy gêm gyntaf ac adeiladu ar hynny y penwythnos hwn.

“Mae’n rhaid i ni barhau i weithio’n galed, bod yn glinigol a chywir yn ein chwarae, cadw’n disgyblaeth a pherfformio am yr 80 munud.”


Tîm Cymru

15. C. Winnett, 14. J. Adams, 13. G. North, 12. N. Tompkins, 11. R. Dyer, 10. S. Costelow, 9. T. Williams; 1. G. Thomas, 2. E. Dee, 3. K. Assiratti, 4. D. Jenkins (capten), 5. A. Beard, 6. A. Mann, 7. T. Reffell, 8. A. Wainwright

Eilyddion

16. R. Elias, 17. C. Domachowski, 18. D. Lewis, 19. W. Rowlands, 20. M. Martin, 21. K. Hardy, 22. I. Lloyd, 23. M. Grady