Gallai tîm pêl-droed Cymru orfod ymdopi heb eu capten Aaron Ramsey fis nesaf, wrth iddyn nhw herio’r Ffindir mewn gêm ail gyfle ar gyfer Ewro 2024.
Gallai’r chwaraewr canol cae fod allan am oddeutu mis ar ôl anafu ei goes, ac mae’n ymddangos bod yr anaf yn fwy difrifol na’r disgwyl.
Bydd Cymru’n herio’r Ffindir yn eu gêm ail gyfle gyn-derfynol ar Fawrth 21, a phe baen nhw’n ennill byddan nhw’n herio Gwlad Pwyl neu Estonia yn y rownd derfynol ar Fawrth 26.
Yn ôl Erol Bulut, rheolwr Caerdydd, gallai’r chwaraewr fod allan am hyd at chwe wythnos.
Dim ond ddwywaith mae Ramsey wedi chwarae, a’r rheiny fel eilydd, ers iddo fe wella o anaf oedd wedi ei gadw e allan o’r gêm ers mis Medi.