Bydd tîm rygbi Cymru’n herio De Affrica yn ystod yr haf, cyn teithio i Awstralia.
Yn Twickenham fydd Cymru’n chwarae Pencampwyr y Byd ar Fehefin 22, cyn i Ffiji wynebu’r Barbariaid yno.
Dyma fydd yr eildro i Gymru a De Affrica chwarae yn erbyn ei gilydd yn Llundain, a’r tro cyntaf ers rownd wyth olaf Cwpan y Byd yn 2015, pan gollodd Cymru o 23-19.
Fydd Stadiwm Principality ddim ar gael dros yr haf, o ganlyniad i gyngherddau Taylor Swift a’r Foo Fighters.
Wedi hynny, bydd tîm Warren Gatland yn teithio i Awstralia i chwarae dwy gêm brawf.
Bydd y gyntaf yn cael ei chynnal yn Sydney ar Orffennaf 6, a’r ail yr wythnos wedyn yn Melbourne ar Orffennaf 13.
‘Cyfleoedd gwych’
Dywed Warren Gatland y bydd yn gyfle “gwych” i gael chwarae Pencampwyr y Byd ar faes niwtral.
“Tydi’r cyfleoedd na’r profiadau hynny ddim yn digwydd yn aml iawn – ac fe ddylai’r bechgyn edrych ymlaen yn fawr at hynny,” meddai.
“Bydd yn brofiad ychydig yn wahanol i’n cefnogwyr hefyd.”
Draw yn Awstralia, bydd y tîm cartref yn gobeithio talu’r pwyth am y golled o 40-6 yng Nghwpan y Byd y llynedd.
Y Wallabies enillodd yr ornest ddiwethaf rhwng y ddwy wlad ar eu tomen eu hunain, pan enillon nhw o 20-19 yn Sydney yn 2012.
Fe fydd y ddwy wlad yn cystadlu am Dlws James Bevan eto.
“Mae teithio i Awstralia i chwarae dwy gêm brawf yn gyfle gwych i ni ddatblygu fel carfan,” meddai Warren Gatland.
“Fe fydd y Wallabies yn dal i frifo ar ôl beth ddigwyddodd yng Nghwpan y Byd ac mae Awstralia’n le heriol ac anodd iawn i ennill ynddo.
“Bydd y ffaith bod Joe Schmidt bellach wrth y llyw iddyn nhw yn gwneud pethau’n hyd yn oed yn fwy diddorol a heriol.”
Cyn hynny, bydd Cymru’n parhau â’u hymgyrch ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad gyda gêm yn Nulyn yn erbyn y Gwyddelod ddydd Sadwrn (Chwefror 24).
Wedi colli’u dwy gêm agoriadol – o un pwynt a dau bwynt – dim ond un newid sydd i’r tîm wnaeth golli yn erbyn Lloegr, wrth i Sam Costelow ddychwelyd i safle’r maswr yn lle Ioan Lloyd.