Roedd rhai o’r emynau a chaneuon Cymraeg amlycaf i’w clywed ar lwyfan yn India ddoe (dydd Mawrth, Chwefror 20) – gan gynnwys ‘Yma O Hyd’ – i ddathlu pen-blwydd Brenin Lloegr.

Bu tîm criced Cymru dros 60 yn perfformio yn Chennai, lle maen nhw’n cystadlu yng Nghwpan y Byd ar hyn o bryd.

Maen nhw eisoes wedi curo India yn y gystadleuaeth, ond wedi colli yn erbyn Awstralia.

“Nid yn unig y gwnaethon nhw ennill ar y cae, ond fe ddangoson nhw i Chennai beth yw Cymru, gyda pherfformiad o’r galon o ‘Yma o Hyd’, ‘Calon Lân’ ac Anthem Genedlaethol Cymru,” medd Llywodraeth Cymru ar eu cyfrif yn hysbysebu’r cysylltiadau rhwng Cymru ac India.

Cysylltiadau rhwng y ddwy wlad

“Fe wnaeth y daith i’r cae ein hatgoffa ni unwaith eto o’r gwrthgyferbyniadau rhwng y ddwy wlad,” meddai’r tîm ar eu tudalen Facebook.

“Er y byddai nifer o ardaloedd yng Nghymru’n cael eu hystyried yn amaethyddol, ac mae nifer o’n timau criced ni wedi’u lleoli ar diroedd amaethyddol, dw i erioed wedi gweld buwch yn atal y chwarae.

“Digon o gŵn, ambell gath, neidr ym Meisgyn bron unwaith (stori arall ar gyfer diwrnod arall yw honno), haid o wenyn hyd yn oed – ond erioed buwch.

“Mae wedi digwydd ar ddiwrnodau olynol yn India nawr.

“Roedd yn ddiwrnod oedd wedi codi’r galon – nid yn unig am ein bod ni wedi ennill, ond roedd yn ddiwrnod oedd wedi tanlinellu, er bod nifer o wahaniaethau rhwng diwylliannau, bydd daioni’r ysbryd dynol bob amser yn ennill pe bai’n cael y cyfle i ffynnu.”