Bu’n benwythnos llwyddiannus i Gymru ym Mhencampwriaethau Dan Do y Deyrnas Unedig yn Birmingham.

Ddydd Sadwrn, sicrhaodd Jeremiah Azu ei le yn nhîm Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon ym Mhencampwriaethau Dan Do y Byd yn Glasgow (Mawrth 1-3) drwy ennill y 60m i ddynion. Hwn oedd y tro cyntaf i’r athletwr 22 oed o Gaerdydd ennill y teitl, wedi iddo ddod yn ail y llynedd a’n drydydd yn 2022.

Roedd e ben ac ysgwydd yn well na weddill y cystadleuwyr, gan groesi’r llinell mewn 6.60 eiliad, 0.08 eiliad ar y blaen i Andrew Robertson yn yr ail safle. Gorffennodd Cymro arall, Dewi Hammond, yn bumed mewn amser o 6.76 eiliad.

“Fy nod oedd cael y fuddugoliaeth ar gyfer Pencampwriaethau’r Byd,” meddai. “Rwy’n falch fy mod wedi gwneud hynny ond bydd angen i mi fynd yn gyflymach i gyrraedd rownd derfynol Pencampwriaethau’r Byd.”

Yn y naid bolyn i ddynion, mewn cystadleuaeth lle tanberfformiodd un neu ddau o athletwyr, gorffennodd Thomas Walley o glwb Wrecsam yn drydydd gydag uchder o 5.16m – ei naid orau dan do.

Yn y 60m dros y clwydi, gorffennodd Tom Wilcock o glwb Loughborough Students yn bedwerydd mewn 7.89 eiliad, tu ôl i athletwr arall a sicrhaodd ei le i rasio yn Glasgow, Tade Ojora.

Piers Copeland yn Birmingham (Llun: Nathan Stirk/British Athletics; Getty Images)

Ddydd Sul, bu mwy o lwyddiant, y tro hwn yn 1500m y dynion, wrth i Piers Copeland o glwb Pontypridd Roadents hawlio buddugoliaeth annisgwyl mewn 3:48:43. Enillodd Copeland y teitl yn 2022 yn ogystal, ond Callum Elson ac Adam Fogg oedd y ffefrynnau – dau athletwr oedd eisoes wedi rhedeg y safon angenrheidiol ar gyfer cystadlu yn Glasgow fis nesaf. Ond sleifiodd Copeland drwodd ar y tu fewn yn y metrau olaf i guro’r ddau Sais, Callum Elson ac Adam Fogg.

“Roedd gen i wahanol gynlluniau ar gyfer y ras yn ddibynnol ar sut oedd y ras yn mynd,” meddai’r Cymro. “Dechreuodd yn araf, ac roeddwn eisiau cadw i fyny â’r ras ond allan o drwbl. Gallwch chi golli’r ras os ewch chi’n rhy gynnar, ond os ydych chi’n amyneddgar, gallwch chi ei hennill.”

Yn y taflu’r pwysau i ddynion, chwalodd Patrick Swan ei record bersonol am y gamp. 17.39m oedd pellter gorau Swan am y gamp dan do, ond yn yr ail rownd taflodd e 17.79m, cyn gwella ar hynny yn y rownd olaf, gyda thafliad o 18.33m. Gorffennodd Cymro arall, Jake Matthews, yn bedwerydd, gan dorri ei record bersonol o 15.55m dair gwaith yn ystod y gystadleuaeth, gyda thafliad gorau o 16.15m Er hyn, roedd y ddau ohonyn nhw y tu ôl i Scott Lincoln o Efrog a enillodd y pencampwriaethau dan do am yr wythfed tro gyda thafliad gorau o 20.08m.

Yn yr 800m i ddynion, enillodd Justin Davies y fedal efydd mewn 1.49.44 eiliad, y tu ôl i Jack Higgins a Guy Learmonth, oedd yn gobeithio am ei bumed teitl – ill dau yn croesi’r llinell mewn 1:47:91, gyda Higgins filieiliadau ar y blaen i ennill y ras.

Bu un pedwerydd safle yn ogystal. Yn y 3000m i fenywod, gorffennodd Jenny Nesbitt o’r Pontypridd Roadents mewn 9:09:07 mewn ras oedd yn cynnwys dwy fenyw oedd wedi ennill Pencampwriaethau Dan Do Ewrop am y pellter yn y gorffennol. Llwyddodd Nesbitt i guro un ohonyn nhw, Amy-Eloise Neale, ar y llinell ond roedd hi’n bell tu ôl i’r llall, yr Albanes Laura Muir (8.58.30), fydd yn gobeithio ennill Pencampwriaethau Dan Do’r Byd yn y ddinas lle mae hi’n byw.

Yn y 200m i fenywod, gorffennodd Hannah Longden o glwb Cardiff Athletics yn bumed mewn 24.22 eiliad, a dyna oedd yr hanes i Hannah Brier yn y 400m i fenywod hefyd. 53.57 eiliad oedd ei hamser hi yn y rownd derfynol, tu ôl i’r efeilliaid Laviai (51.54) a Lina Nielsen (51.95), gyda Laviai yn cadarnhau ei lle yn nhîm Prydain wedi iddi redeg yn gynt na safon Pencampwriaethau’r Byd (51.60) am yr ail dro’r tymor hwn.

O ganlyniad i’w pherfformiad brynhawn Sul, mae Hannah Brier wedi ei henwi’n un o chwe athletwraig yn nhîm Prydain ar gyfer y ras gyfnewid 4x400m yn Glasgow.

Molly Caudery yn clirio 4.85m yn Birmingham (Llun: Nathan Stirk/British Athletics; Getty Images)

Ar draws y penwythnos, y perfformiad gorau yn ddi-os oedd Molly Caudery o Gernyw yn y naid bolyn i fenywod. Llwyddodd hi i glirio 4.85m ar y trydydd cynnig i dorri ei record bersonol a record y bencampwriaeth – 5cm yn uwch na record Holly Bradshaw, enillodd fedal efydd yng ngemau Olympaidd Tokyo yn 2021. Hon oedd y naid uchaf unrhyw le yn y byd eleni.

Creodd Jemma Reekie argraff yn ras olaf yn bencampwriaethau, yr 800m i fenywod. Gorffennodd yr Albanes mewn amser o 1.58.24, 2.03 eiliad o flaen Issy Boffey o glwb Enfield & Haringey, groesodd y llinell o fewn yr amser oedd ei angen arni i fynd i Glasgow (2:00:80).

Torrodd Reekie record y bencampwriaeth a gosod yr ail amser cyflymaf yn y byd i gau pen y mwdwl ar ddau ddiwrnod lawn o gystadlu brwd.