Byddai’r toriadau arfaethedig o fwy na £440,000 yn y cyllid ar gyfer cyhoeddi yng Nghymru’n “peryglu llenyddiaeth y wlad yn ddifrifol”, yn ôl Cyhoeddi Cymru.
Cafodd y gyllideb ddrafft ei chyhoeddi ym mis Rhagfyr, gan nodi cynlluniau gwariant refeniw a chyfalaf dros gyfnod 2023-24.
Yn rhan o’r gyllideb, mae Llywodraeth Cymru wedi cynnig toriad o 10.5% yng nghyllideb flynyddol Cyngor Llyfrau Cymru, sy’n cynnwys toriad o £273,000 i grantiau cyhoeddi.
Yn ôl Cyhoeddi Cymru, gall y toriad hefyd beryglu’r targed o gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 a chael effaith ar lythrennedd plant yng Nghymru.
“Ar adeg pan fo 30% o blant Cymru yn byw mewn tlodi, a llythrennedd plant yng Nghymru yw’r isaf yn y Deyrnas Unedig – gyda’r adroddiad PISA diweddaraf yn dangos bod Cymru’n disgyn ymhellach y tu ôl i gyfartaledd yr OECD – bydd toriadau mor llym yn golygu llai o lyfrau yn cael eu cyhoeddi i blant yng Nghymru,” meddai Ashley Drake, cadeirydd dros dro Cyhoeddi Cymru.
“Ni fydd dymuniad Llywodraeth Cymru i wella’r lefelau gwael o lythrennedd plant yn cael ei gyflawni drwy wadu’r llyfrau y mae eu hangen mor daer ar blant.
“Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi ymrwymo i gynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg i filiwn erbyn 2050, ond sut y gellir cyflawni’r nod hwnnw os yw’r gyllideb i gyhoeddi llyfrau yn Gymraeg, i blant ac oedolion, yn cael ei dorri?
“Bydd y toriad hwn hefyd yn drychinebus i lawer o gyhoeddwyr o Gymru sydd bellach yn wynebu twll du mawr posibl yng nghyllidebau eu cwmnïau yn ystod amodau economaidd anhygoel o anodd.”
‘Trychineb’
Gan nodi bod y toriad arfaethedig o 10.5% yn dod ar ben toriad effeithiol o 37% ar ôl degawd a mwy o “gyllidebau segur”, un arall sydd wedi gwneud sylw yw Penny Thomas o Firefly Press yng Nghaerffili.
“Mae cyhoeddi Cymraeg wedi cyflawni y tu hwnt i’r disgwyl dro ar ôl tro,” meddai.
“Dim ond y llynedd enillodd The Blue Book of Nebo gan Manon Steffan Ros Fedal Yoto Carnegie, yr anrhydedd uchaf ym maes cyhoeddi plant ac oedolion ifanc yn y Deyrnas Unedig, yn wyneb cystadleuaeth gan gyhoeddwyr rhyngwladol enfawr.
“Ni fyddai’r llyfr hwn, gafodd ei gyfieithu o’r Gymraeg, wedi ei gyhoeddi yn y Deyrnas Unedig heb yr arian a gafodd.
“Mae llyfrau i oedolion a phlant yn hyrwyddo llythrennedd, empathi, iechyd meddwl a lles a dealltwriaeth ddiwylliannol, a dangoswyd mai darllen er pleser yn ystod plentyndod yw’r dangosydd pwysicaf o lwyddiant plentyn yn y dyfodol.
“Byddai torri’r gyllideb fach, sydd eisoes yn cynhyrchu canlyniadau enfawr, yn drychineb i’n llenyddiaeth, ein hawduron a’n darlunwyr ni, diwydiant cyhoeddi Cymru, ac economi ffug.”
‘Pymtheg mlynedd o doriadau’
Mae’r toriadau arfaethedig yn “bryder anferth” i Lefi Gruffudd o wasg Y Lolfa.
“Mae’n doriad uniongyrchol anferth nawr, ond hefyd ar ben pymtheg mlynedd o dorri blynyddol cyn hynny,” meddai wrth golwg360.
“Achos does dim un cynnydd wedi bod ddeg i bymtheg mlynedd cyn hyn chwaith, felly mae hwnna’n golygu gostyngiad real o tua 40%.
“I ddweud yn hollol onest, mae’n doriad ar gyfnod argyfyngus, beth bynnag, i’r byd llyfrau ac yn arbennig i’r byd llyfrau Cymraeg.
“Mae’n doriad ar ben pymtheg mlynedd o doriadau di-baid, lle mae chwyddiant wedi tocio a dydyn ni ddim wedi cael y cynnydd chwyddiant yn yr holl gyfnod yna.
“Felly, yn amlwg, mae hwnna’n cael effaith uniongyrchol, benodol.”
Dywed fod y toriadau’n dod ar gyfnod anodd o ran y lleihad sydd wedi bod mewn gwerthiant llyfrau oedolion yn Gymraeg.
“Mae’r gostyngiad wedi bod yn un cyson a phryderus ers nifer o flynyddoedd,” meddai.
“Tasen ni’n eithrio’r un flwyddyn Covid o sgyrsiau, byse rhywun yn gweld patrwm clir o ostyngiad real mewn gwerthiant llyfrau Cymraeg.”
Llyfrau Cymraeg a’r Miliwn o Siaradwyr
Mae gan Lywodraeth Cymru darged o Filiwn o Siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, felly pa effaith fydd torri cyllidebau llyfrau yn ei chael ar y targed hwnnw?
“Os ydyn nhw’n poeni am ddyfodol yr iaith Gymraeg, mae’r holl dwf yn yr iaith Gymraeg yn dibynnu ar fod yna lyfrau ac adnoddau Cymraeg yn bodoli,” meddai Lefi Gruffudd wedyn.
“Felly does dim synnwyr, i ni, bod torri yn digwydd ar lyfrau Cymraeg mewn cyfnod lle mae’r Llywodraeth yn trio gwthio, cynyddu os nad dwblu nifer y siaradwyr Cymraeg.
“Felly mae’n sefyllfa dydyn ni ddim yn gallu ei deall, na pham bo nhw wedi gwneud hynny.
“Cyd-destun arall yw bod poeni am gael llyfrau… mae rhai cynlluniau wedi bod i gael llyfrau i ysgolion, ac mae rheiny yn cael eu torri hefyd, mae’n ymddangos.
“Felly mae elfen o bryder am lythrennedd a helpu plant o gefndiroedd tlawd yn sicr yn sgil y torri yma.”