Mae disgwyl i fwy na 500 o fyfyrwyr Cymraeg prifysgolion Cymru fod yn rhan o Eisteddfod Ryng-golegol Abertawe fis nesaf.
Bydd yr Eisteddfod yn cael ei chynnal yn y Neuadd Fawr ar Gampws y Bae ar Fawrth 1 a 2.
Bydd y cyfan yn dechrau ar brynhawn Gwener, Dydd Gŵyl Dewi, gyda chystadlaethau rygbi saith bob ochr, pêl-droed a phêl-rwyd.
Bydd y cystadlaethau llwyfan yn dechrau yn y Neuadd Fawr ar Gampws y Bae am 10 o’r gloch ar y dydd Sadwrn (Mawrth 2), gyda’r gyflwynwraig Siân Thomas, un o gyn-fyfyrwyr Abertawe, yn Feistres y Ddefod.
Y digrifwr Noel James a Tom Kemp, cyn-Swyddog Materion y Gymraeg Undeb Myfyrwyr Prifysgol Abertawe, fydd yn llywio’r diwrnod o’r llwyfan.
Bydd y cystadlaethau’n cynnwys perfformiadau llwyfan a chystadlaethau gwaith cartref – o farddoniaeth i ryddiaith, ac o gelf i wyddoniaeth.
Mae cystadlaethau penodol hefyd i fyfyrwyr sy’n dysgu Cymraeg.
Ysgol Gyfun Gŵyr sydd wedi creu’r Goron, ac Ysgol Gyfun Bryn Tawe sydd wedi creu’r Gadair.
Bydd y penwythnos yn cloi ar y nos Sadwrn gyda gig yng nghwmni Gwilym, Mellt a FRMAND yng nghlwb nos Undeb y Myfyrwyr, sydd newydd ail-agor ar Gampws Singleton yn dilyn buddsoddiad o £1.3m.
‘Penwythnos bythgofiadwy’
“Rydyn ni yn Undeb Myfyrwyr Abertawe mor falch o groesawu’r Eisteddfod Ryng-golegol ’nôl i’r Brifysgol,” meddai Macsen Davies, Swyddog Materion y Gymraeg Undeb Myfyrwyr Prifysgol Abertawe.
“Mae’n fraint i mi fel Swyddog Materion y Gymraeg i fod yn rhan o’r trefniadau gyda chefnogaeth staff Academi Hywel Teifi ac rydyn ni’n edrych ymlaen at sicrhau bod myfyrwyr Cymraeg Cymru a thu hwnt yn mwynhau penwythnos o gystadlu a chymdeithasu ymysg ei gilydd.
“Bydd hi’n benwythnos bythgofiadwy ym Mhrifysgol Abertawe!”
Dathliadau Gŵyl Dewi “hynod fywiog eleni”
“Bydd dathliadau Gŵyl Ddewi ar gampysau Prifysgol Abertawe yn hynod fywiog eleni gyda channoedd o fyfyrwyr prifysgolion Cymru yn ymweld â ni ar gyfer cystadlaethau chwaraeon a’r Eisteddfod Ryng-golegol,” meddai’r Athro Gwenno Ffrancon, Cyfarwyddwr Academi Hywel Teifi ym Mhrifysgol Abertawe.
“Rydyn ni’n edrych ymlaen yn fawr at estyn croeso cynnes i bawb i ddinas Abertawe a darparu llwyfan arbennig ar gyfer cystadlu brwd, cymdeithasu â ffrindiau hen a newydd, a dathlu’r diwylliant Cymraeg a Chymreictod.”