Mae Eisteddfod Ryngwladol Llangollen wedi cyhoeddi Cymanfa Ganu Ryngwladol i ddathlu Dydd Gŵyl Dewi.
Bydd y Gymanfa’n cael ei chynnal nos Sul, Mawrth 3 yn Eglwys Sant Collen yn Llangollen, dan arweiniad Trystan Lewis.
Organydd y noson fydd Owen Maelor Roberts.
Bydd Ysgol Delynnau Derwent yn ymuno yn y Gymanfa hefyd, a bydd negeseuon Gŵyl Dewi gan grwpiau o bob cwr o’r byd fydd yn ymddangos yn Eisteddfod Ryngwladol Llangollen eleni.
Traddodiad y Gymanfa
“Rydym yn eithriadol o hapus fod Trystan Lewis wedi cytuno i arwain ein Cymanfa,” meddai Elen Mair Roberts, sy’n aelod o bwyllgor Cerdd a Llwyfannu’r Eisteddfod.
“Mae Trystan yn eithriadol o boblogaidd ac yn brofiadol iawn yn ei faes fel arweinydd corawl, ac rydym wrth ein boddau iddo gytuno i arwain ein dathliadau Gŵyl Dewi yn Llangollen.
“Bydd blas rhyngwladol i’r Gymanfa, ac rydym wedi derbyn negeseuon mor bell i ffwrdd â Japan ac India.
“Hwn yw’r ychwanegiad diweddaraf at ddigwyddiadau drwy gydol y flwyddyn ar gyfer yr Eisteddfod, ac os nad ydych wedi mynychu Cymanfa Ganu o’r blaen, mae gwledd o’ch blaen.”
Trystan Lewis
Mae cerddoriaeth corawl wedi chwarae rhan mawr ym mywyd Trystan Lewis.
Yn fyfyriwr is-raddedig ym Mhrifysgol Aberystwyth, fe ennillodd e ddwy waith yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru gyda Chôr Pantycelyn.
Mae wedi arwain dros 200 o gymanfaoedd, gan gynnwys rhai yng Nghanada ac yn Ngŵyl Gogledd America, yn ogystal ag ar raglenni teledu a radio.
Mae’r tocynnau ar gael ar-lein ac o Ganolfan Croeso Llangollen am £10 yr un.