Mae ymgyrch sydd wedi’i sefydlu i geisio achub cylchgrawn Planet yn anelu i godi £10,000 ar ôl i’r rhifyn olaf “am y tro” gael ei gyhoeddi fis yma.
Bydd arian gan Gyngor Llyfrau Cymru ar gyfer y cyhoeddiad yn dod i ben ar Ebrill 1 ar ôl 54 mlynedd, yn dilyn proses dendro.
Mae’r cylchgrawn gan gwmni nid-er-elw wedi diolch i’w darllenwyr, golygyddion gwâdd, cyfranwyr, noddwyr a chefnogwyr, gan ddweud eu bod nhw wedi colli hanner yr arian roedden nhw’n ei dderbyn yn 2008 erbyn hyn.
Ond yn ôl Emily Trahair, golygydd y cylchgrawn, mae’r tîm yn “ofnadwy o obeithiol” y gall Planet “un diwrnod lanio ar eich matiau drws eto”.
Codi arian
Byddai unrhyw arian sy’n cael ei godi’n mynd tuag at daliadau statudol i staff sydd wedi cael eu heffeithio, yn ogystal â thalu costau sydd ynghlwm â’r broses o ddirwyn y cyhoeddiad i ben.
Byddai bwrw’r targed yn atal cwmni Berw Cyf, sy’n berchen ar y cylchgrawn, rhag mynd i ddyled a cholli eu hawliau eiddo deallusol, a byddai hynny yn ei dro yn sicrhau bod modd cynnal gwefan fyw ac ystyried ailagor yn y dyfodol.