Wrth i’r byd darlledu dalu teyrnged i Steve Wright, y cyflwynydd radio poblogaidd fu farw’n 69 oed, mae Rhys Mwyn yn dweud ei fod yn “feistr ar ei grefft” ac yn “grefftwr wrth ei waith”.

Daeth y newyddion am farwolaeth cyn-gyflwynydd BBC Radio 1 a Radio 2 neithiwr (nos Fawrth, Chwefror 13), wrth i un cyflwynydd dagreuol ar ôl y llall gyflwyno rhaglenni oedd yn adlewyrchu ei hoff gerddoriaeth.

Roedd Steve Wright yn un o leisiau mwyaf cyfarwydd y Gorfforaeth dros gyfnod o bedwar degawd a mwy.

Ar ôl ymuno â’r BBC yn y 1970au, aeth yn ei flaen i gyflwyno sioeau prynhawn ar y ddwy brif orsaf, yn ogystal â chyflwyno rhaglenni teledu fel Top of the Pops.

Fe wnaeth e ddarlledu am y tro olaf ddydd Sul, ddiwrnod cyn ei farwolaeth sydyn, gyda rhaglen o geisiadau San Ffolant.

Bywyd a gyrfa

Cafodd Steve Wright ei eni yn Greenwich yn ne Llundain yn 1954.

Dechreuodd ei yrfa yn y BBC fel clerc, cyn gadael a dod yn gyflwynydd gyda Radio 210 yn 1976.

Dychwelodd i’r Gorfforaeth at Radio 1 bedair blynedd yn ddiweddarach i gyflwyno rhaglenni penwythnos, cyn sefydlu ei raglen boblogaidd Steve Wright in the Afternoon yn 1981.

Ar ôl bod yn cyflwyno sioe frecwast Radio 1 am flwyddyn yn 1994-95, ymunodd â Talk Radio, ond fe ddychwelodd i’r BBC yn 1996, gan gyflwyno rhaglen ar ddydd Sadwrn a Sunday Love Songs, ei raglen boblogaidd arall.

Lansiodd ei raglen brynhawn boblogaidd yn 1999, a bu’n cyflwyno honno tan 2022, gyda chyfuniad o eitemau poblogaidd yn sicrhau hunaniaeth unigryw i’r sioe, gan gynnwys Factoids ar ffurf ‘sŵ’ lle byddai’n croesawu un gwestai ar ôl y llall.

Arhosodd e gyda’r BBC ar ôl i Scott Mills etifeddu ei raglen brynhawn, gan barhau i gyflwyno’i raglen caneuon serch ar ddydd Sul.

Bu’n cyflwyno Pick of the Pops ar brynhawn Sadwrn ers y llynedd hefyd.

Derbyniodd e’r MBE yn Anrhydeddau Blwyddyn Newydd Brenin Lloegr ddiwedd y llynedd.

Mae disgwyl i Radio 2 ddarlledu rhaglenni teyrnged iddo’n fuan.

‘Caru y cyfrwng radio’

“Does dim cymhariaeth amlwg rhwng fy sioe radio ar nos Lun ar BBC Radio Cymru a sioe fel Steve Wright in the Afternoon oedd ar Radio 2 tan yn ddiweddar,” meddai Rhys Mwyn, colofnydd cylchgrawn Golwg, wrth golwg360.

“Roedd Steve yn feistr ar ei grefft o gyflwyno ar y radio – dim ond gwrando arno oedd ei angen i wybod hynny.

“O ddarllen yr holl deyrngedau gan ei gyd-weithwyr, un sylw cyson iawn oedd ei fod yn ‘caru’ y cyfrwng radio.

“Y sylw arall oedd ei fod yn gwneud gwaith paratoi trylwyr ar gyfer pob un sioe – anelu am sioe o’r safon uchaf bob tro.

“Eto o wrando arno, roedd hyn mor amlwg!

“Ac fel cymaint o’r bobol sydd wedi talu teyrnged i Steve, dyma hefyd gydnabod ein bod ni gyd wedi dysgu cymaint am sut i gyflwyno drwy wrando ar grefftwr wrth ei waith.”